Cofiwch y dyddiad – mae cyngerdd MTV yn dod i Abertawe yn ddiweddarach eleni.
Mae Cyngor Abertawe wedi cadarnhau y bydd cyngerdd Club MTV, a fydd yn cynnwys saith awr o gerddoriaeth, yn cael ei gynnal ym Mharc Singleton y ddinas ddydd Sadwrn 24 Medi.
Mae’r cyngor wedi bod yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac MTV i ddod â’r cyngerdd i Abertawe.
Cyhoeddir yr enwogion a fydd yn cymryd rhan dros yr wythnosau nesaf, yn ogystal â gwybodaeth am sut a lle i brynu tocynnau.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, “Mae’n bleser gennym allu cynnal cyngerdd mawr fel hwn yn Abertawe ddiwedd mis Medi trwy weithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru ac MTV.
“Bydd y cyngerdd, a fydd yn dilyn perfformiad Noel Gallagher ym Mharc Singleton ar 2 Medi, yn gallu cael cynulleidfa o 20,000 o bobl, sy’n atgyfnerthu enw da cynyddol Abertawe fel dinas sy’n cynnal cerddoriaeth fyw wych.
“Mae Stadiwm Liberty eisoes wedi cynnal perfformiadau gan Lionel Richie a’r Manic Street Preachers eleni. Mae’r cyngherddau hyn, ynghyd â pherfformiadau ym Mharc Singleton, yn dangos ein bod ni’n denu rhai o enwogion mwyaf y byd er mwynhad preswylwyr Abertawe ac ymwelwyr â’r ddinas.
“Mae’r perfformiadau yn rhan o raglen ddigwyddiadau a gweithgareddau Joio Abertawe sy’n cynnig rhywbeth i bawb yr haf hwn a’r tu hwnt.”
TICKET INFORMATION
TICKETS for the major Club MTV concert in Singleton Park next month will be available from Friday morning (August 5) at 9am. The ticket master link will appear here on the morning of Friday August 5.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English