Ydych chi’n mynd i fwynhau’r digwyddiadau ym Mae Abertawe yn ystod yr hydref?
Rhannwch eich lluniau â ni ar Twitter, Facebook ac Instagram, gan ddefnyddio #JoioBaeAbertawe, a chewch gyfle i ennill pâr o docynnau sglefrio iâ ar gyfer Gwledd y Gaeaf ar y Glannau.
Amodau a Thelerau
- Caiff pâr o docynnau sglefrio iâ eu rhoi i UN enillydd ym mhob cyfrwng (sef un enillydd ar Facebook, un enillydd ar Twitter ac un enillydd ar Instagram).
- Mae’r gystadleuaeth hon yn agored i bobl dros 18 oed yn unig.
- Caniateir un cynnig y person yn unig.
- Mae’r gystadleuaeth hon yn agored i breswylwyr y DU yn unig.
- Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 3pm ddydd Sadwrn, 5 Tachwedd 2016.
- Bydd Dinas a Sir Abertawe’n cysylltu â’r enillwyr i roi manylion eu gwobr.
- Ni ellir trosglwyddo’r wobr ac nid oes modd dewis arian yn lle’r wobr a nodwyd.
- Mae penderfyniad y trefnydd yn derfynol ac nid ymatebir i unrhyw ohebiaeth.
- Ni dderbynnir unrhyw gyfrifoldeb am geisiadau anghymwys neu rai twyllodrus.
- Nid yw’r gystadleuaeth hon yn agored i unrhyw berson sy’n ymwneud â threfnu’r gystadleuaeth nac i’w berthnasau agosaf.
- Mae Dinas a Sir Abertawe’n cadw’r hawl i ganslo’r gystadleuaeth hon ar unrhyw adeg.
- Os na ellir cysylltu ag enillydd wedi sawl ymgais, mae Cyngor Dinas a Sir Abertawe’n cadw’r hawl i gynnig y wobr i’r ymgeisydd gorau nesaf.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English