The Grand Theatre Swansea – 360 degrees – View 2 – Spherical Image – RICOH THETA
Oherwydd technoleg newydd sgleiniog, gallwch bellach fynd ar daith rithwir o rai o hoff atyniadau teuluoedd yn Abertawe, fel Amgueddfa Abertawe, Canolfan Dylan Thomas a mwy gyda’r lluniau rhyngweithiol, 360 gradd!
Mynnwch gip arnyn nhw!
Bae Abertawe
Ar ddiwrnod heulog, does dim byd gwell na mynd am dro ar hyd ehangder braf Bae Abertawe. Yn gaeth i’r swyddfa? Peidiwch â phoeni – eisteddwch yn ôl, trowch y sain lan a gwrandewch ar y tonnau yn y fideo isod. Dyw e ddim yn union yr un peth, ond mae’n agos iawn!
Explore Swansea Bay in 360
Neuadd Brangwyn
Mae Neuadd anhygoel Brangwyn, a agorwyd ym 1934, wedi cynnal digwyddiadau mawreddog di-rif, boed yn berfformiadau cerddoriaeth sylweddol (Elvis Costello a Bullet for my Valentine yw’r diweddaraf), seremonïau graddio prifysgolion, seremonïau dinesig, cerddoriaeth glasurol a mwy.
Explore The Brangwyn in 360 >
Canolfan Dylan Thomas
Cartref i arddangosfa Dylan Thomas, mab enwocaf Abertawe. Mae’r arddangosfa, a gafodd ei hadnewyddu a’i hadfywio’n helaeth yn 2014 i ddathlu can mlynedd ers ei eni gydag arian Cronfa Dreftadaeth y Loteri, yn dilyn bywyd Dylan a’i brif weithiau.
Explore the Dylan Thomas Centre Exhibition in 360 >
Amgueddfa Abertawe
Yn un o adeiladau mwyaf eiconig ac adnabyddus Abertawe, mae Amgueddfa Abertawe’n cynnal arddangosfeydd amrywiol trwy gydol y flwyddyn ac, wrth gwrs, yn gartref i fymi Abertawe ei hun! Cewch gip y tu mewn i ystafell y mymi isod!
Explore the Mummy Room at Swansea Museum in 360 >
Parc Singleton
Yn ogystal â Bae Abertawe, mae dros 80 o barciau trawiadol yn Abertawe a’r cyffiniau. Edrychwch ar y llun rhyngweithiol o Barc Singleton isod; coed enfawr, gwyrddni diddiwedd a’r bwthyn Swisaidd – mae mynd am dro yma’n cystadlu â’r bae!
Explore Singleton Park in 360 >
Oystermouth Castle
Oystermouth Castle sits majestically on the hill in Mumbles with stunning views overlooking Swansea Bay. Check out the series of interactive photos that explore parts of the castle that have been hidden away for centuries.
Os ydych chi wedi mwynhau’r lluniau uchod, cofiwch y gallwch roi cynnig ar y peth go iawn! Edrychwch ar y rhestr ddigwyddiadau i weld yr hyn sy’n digwydd ac edrychwch ar ein tudalen leoliadau am oriau agor a mwy.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English