Date/Time:
Date(s) - 12/04/2018
11:00 am - 9:30 pm
Location: Swansea City Centre
Peidiwch â cholli’r diweddglo anhygoel i daith Man Engine Cymru yn Abertawe
Bydd The Man Engine, y pyped mecanyddol mwyaf a adeiladwyd ym Mhrydain erioed, yn ymweld â Chymru am y tro cyntaf eleni. Yn debyg i fwynwr enfawr, bydd The Man Engine sy’n symud, yn ageru ac yn fecanyddol yn dod â’i daith o leoliadau treftadaeth ddiwylliannol pwysicaf de Cymru i ben yn Abertawe ddydd Iau 12 Ebrill.
Man Engine Cymru: Y Diweddglo Anhygoel
Wedi’i animeiddio gan dîm o fwy na dwsin o ‘fwynwyr’, bydd y pyped enfawr yn cyflwyno mwyn copr i’w fwyndoddi i John Henry Vivian yng Ngwaith Copr yr Hafod-Morfa mewn sioe tân a golau wych gyda’r hwyr. Bydd y sioe arbennig hon yn dechrau am 6.30pm yng Ngwaith Copr yr Hafod-Morfa nos Iau 12 Ebrill, ac mae pris y tocynnau’n dechrau o £4.00 yn unig.
WATCH: Spreading the Man Engine love outside of #Cornwall and #Devon to #Somerset #Wales #Ironbridge #Yorkshire #Durham #TheManEngine #Mining pic.twitter.com/F83PNVBiTH
— Spotlight (@BBCSpotlight) April 1, 2018
Man Engine Cymru: Dewch am y dydd i Abertawe
Bydd The Man Engine yn cyrraedd Abertawe ddydd Iau 12 Ebrill am ddiwrnod llawn cyffro sy’n adrodd ein hanes treftadaeth ddiwylliannol mewn ffordd arloesol:
11am – 1.15pm: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, am ddim.
Ymunwch â’r corws i ddeffro The Man Engine o’i gwsg er mwyn dechrau’r stori. Yn llawn arddangosfeydd o’r oes a fu, bydd The Man Engine yn casglu’r mwyn copr gan Gapten David Morgan, un o Cape Horners enwog Abertawe.
2.15pm – 3pm: Canol y Ddinas
Mae’r stori’n parhau gyda The Man Engine yn ymlwybro drwy ganol y ddinas. Yn Sgwâr y Castell.
6.30pm – 9.30pm: Gwaith Copr yr Hafod-Morfa
Bydd The Man Engine yn cyrraedd y gwaith i roi’r mwyn copr i John Henry Vivian ei fwyndoddi mewn sioe tân a golau gyda’r hwyr nad ydych am ei cholli. Rhaid prynu tocyn ar gyfer y diweddglo yn y gwaith copr, ac maent ar gael am £4.00 yn unig.
Man Engine Cymru: Cwrdd â’r cyfranogwyr
Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Amser: 11am – 1.15pm
Pris: AM DDIM
Canol Dinas Abertawe
Amser: 2.15pm – 3pm
Pris: AM DDIM
Gwaith Copr Hafod-Morfa
Amser: 6.30pm – 9.30pm
Archebu: Oedolion £5, I Blant £4, Tocyn Teulu (2 Oedloion & 2 Blant) £15
Parcio
Mae parcio ar gael ar gyfer y diweddglo gyda’r hwyr yng Ngwaith Copr yr Hafod-Morfa yn safle Parcio a Theithio Glandŵr, Stadiwm Liberty a’r tir ger y Ganolfan Tenis.
SYLWER: Mae’r cyfleusterau parcio ar gyfer y diweddglo gyda’r hwyr yn unig, ac nid ar gyfer yr orymdaith drwy ganol y ddinas ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Os oes angen i chi ddod o hyd i feysydd parcio yng nghanol y ddinas ar gyfer yr orymdaith ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, ewch i/cliciwch yma
Rhaid talu wrth gyrraedd pob maes parcio.
Maes Parcio 1 – Parcio a Theithio Glandŵr
Yn agor am 5pm
£5 y car
Taith 2 funud ar droed i’r digwyddiad
Ffordd gyswllt ar draws y cwm, Glandŵr, Abertawe SA1 2JT
Maes Parcio 2 – Stadiwm Liberty
Yn agor am 5pm
£5 y car
Taith 5 munud ar droed i’r digwyddiad
Heol Castell-nedd, SA1 2FA
Maes Parcio 3 – Tir ger y Ganolfan Tenis
Yn agor am 5pm
£5 y car
Taith 10 munud ar droed i’r digwyddiad
Ffordd Brunel, SA1 7DS
Bydd y ffyrdd canlynol ar gau ddydd Iau 12 Ebrill 2018:
06:30 i 14:30 | Burrows Place |
13:30 i 15:30* | Burrows Place; Heol Victoria; Heol Ystumllwynarth; Ffordd y Dywysoges; Stryd Caer; Y Stryd Fawr ar raglen dreigl |
*Lle bo’n bosib, caiff ffyrdd eu cau ar raglen dreigl er mwyn tarfu cyn lleied â phosib a gall yr amserau bras amrywio.
Gallwch ganfod mwy am y bobl a’r lleoedd o’n gorffennol diwydiannol, a ysbrydolodd stori Man Engine Cymru, drwy archwilio’r arddangosfeydd diddorol yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac Amgueddfa Abertawe, neu drwy ddilyn llwybr treftadaeth Gwaith Copr yr Hafod-Morfa.
Mae’r digwyddiad tu allan i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ac yng Nghanol y Ddinas am ddim ac nid oes angen tocyn. Gellir archebu tocynnau ar gyfer diweddglo’r daith yng Ngwaith Copr Hafod-Morfa yn http://www.themanengine.co.uk/.
Categories