Mae fideo rhithiol o’r awyr sy’n dangos y set lwyfan o safon ryngwladol ar gyfer cyngerdd Club MTV ym Mharc Singleton wedi cael ei ryddhau.
Mae Cyngor Abertawe a Llywodraeth Cymru wedi gweithio’n agos gydag MTV i ddod â’r cyngerdd i’r ddinas, a fydd yn cynnwys saith awr o gerddoriaeth fyw.
Ymhlith y perfformwyr sydd wedi’u cadarnhau bydd Professor Green, Jonas Blue, Sigma, Nero a Redlight.
Er eu bod yn gwerthu’n gyflym, mae tocynnau ar gyfer y cyngerdd ar gael o hyd, gan gostio £15 yn unig ynghyd â ffi archebu o £1.50. Gellir eu prynu naill ai ar wefan Ticketmaster yn www.ticketmaster.co.uk neu o Derricks Music ar Stryd Rhydychen.
Rhai o ganeuon mwyaf llwyddiannus Professor Green yw Read All About It, gydag Emili Sandé; I Need You Tonight, gydag Ed Drewett; a Just Be Good To Green, gyda Lily Allen.
Rhai o ganeuon llwyddiannus Jonas Blue, cynhyrchydd cerddoriaeth o Lundain, yw Fast Car, gyda Dakota, a gyrhaeddodd rif dau yn siart senglau’r DU; yn ogystal â Perfect Strangers, gyda JP Cooper, a gyrhaeddodd rif dau yn siart senglau’r DU hefyd.
Mae Sigma, troellwr drymiau a bas a deuawd cynhyrchu recordiau, wedi cyrraedd brig siart senglau’r DU ddwywaith dros y flwyddyn ddiwethaf gyda ‘Nobody to Love’ a ‘Changing’, gyda Paloma Faith.
Cyrhaeddodd Nero, triawd cerddoriaeth electronig, frig siart albymau’r DU gyda’r albwm stiwdio cyntaf, ‘Welcome Reality’. Enillon nhw wobr Grammy hefyd am eu haddasiad ar y cyd o ‘Promises’ gyda Skrillex.
Mae Redlight, troellwr disgiau o Fryste, yn ffefryn y sîn gerddoriaeth danddaearol, ac mae ei ganeuon llwyddiannus yn cynnwys Switch it Off, Get Out Of My Head a Lost In Your Love.
Mae R3WIRE a Varski, perfformwyr preswyl Club MTV ac egin sêr sîn EDM y DU, hefyd wedi’u cadarnhau ar gyfer y cyngerdd ym Mharc Singleton.
Ewch i http://www.enjoyswanseabay.com/cy/events/club-mtv/ neu www.mtv.co.uk/club-mtv i gael mwy o wybodaeth.
Buy from Ticket Master
Buy from Derricks Records
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English