Helo. Ydych chi’n hyfforddi eto?
Ers fy mhost blog cyntaf, dwi wedi gwneud cwpl o ‘bethau ffitrwydd’ ar gyfer hyfforddiant Hanner Marathon Abertawe.
Dwi wedi llwyddo i aros ar y trywydd iawn gyda chwpl o rediadau’r wythnos hon a ‘chynllun cyn cynllun hyfforddi marathon 12 wythnos’. Y syniad yw magu ychydig o ffitrwydd fel nad yw’r hyfforddiant yn rhy anodd pan fydd e’n dechrau.
Beth yw’ch milltir gyflymaf? Erbyn i chi redeg hanner marathon, dwi wedi clywed y dylech chi allu rhedeg milltir mewn 8 munud er mwyn cael amser llai na dwy awr. (Er gwybodaeth, 15% o fenywod sy’n cael amser llai na dwy awr, felly dyw hi ddim yn edrych yn rhy addawol. A dweud y gwir, dwi’n credu byddai 0% yn agosach ati.)
Gwnes i’r prawf yma ar hyd y bae. Defnyddiais i f’oriawr GPS i fesur ‘perfformiad’ ac am y 5 munud gyntaf, fy nghyfartaledd oedd milltir 8 munud. Roeddwn i fel ‘gwwwwyyyyyyyychchchch dwi’n teimlo mor anhygoel!’ Ac yna aeth e o’i le. Am y munudau olaf, roeddwn i fel llong ar dir sych, yn rhedeg yn araf trwy’r tywod (yn anfwriadol) fel Chariots of Fire, ond nid dyn heini mewn fest wen a dim buddugoliaeth mewn golwg.
Y canlyniad?
9:51.
Grêt, llai na deng munud, ond roeddwn i’n teimlo’n wichlyd ac roedd fy mhengliniau’n brifo.
Un broblem fach. Roedd angen i mi allu ychwanegu 12 milltir ychwanegol at y rhediad hwnnw ar ddiwrnod y ras. Gadewch i mi ail-eirio hynny. Mae angen i mi gyflawni 13 milltir olynol ar gyflymder sydd hyd yn oed yn gyflymach na’r cyflymder a oedd bron yn fy lladd am 1 filltir ar ddiwrnod y ras. Fel dwi’n ei deall hi, er mwyn cael yr amser 1:59:59 yn Hanner Marathon Abertawe, dylai fy nghyflymder cyfartalog fod 9 munud a 9.14 eiliad. Dwi wedi clywed y dylech chi roi’ch oriawr i 9 munud a 9 eiliad i fod yn sicr :). Ond mae gen i un peth o’m plaid. Amser i wella, on’d oes?
Bwyta bananas: 2 i frecwast wrth fy nesg lle does dim ymarfer corff a photel fawr o ddŵr (gyda lemwn wedi’i ychwanegu) – wedi’i hail-lenwi tua dwywaith y dydd. Dwi wedi darllen bod bwyta banana 10 munud cyn rhedeg yn beth da… Mae bwyta bananas yn teimlo’n iawn.
Beth yw ‘diwrnod gorffwys’? Yn ôl pob sôn, mae’n gamgymeriad trin y geiriau ‘diwrnod gorffwys’ yn llythrennol. Sylweddolais i ddim hyn am amser maith. Blynyddoedd mewn gwirionedd. Roeddwn i’n arfer gorffwys ar y soffa a gwylio’r teledu. Bellach, dwi’n gwybod bod croes-hyfforddi ar ‘ddiwrnodau gorffwys’ yn allweddol i gael amser da. Dwi wedi trefnu rhywfaint o hyfforddiant, o’r soffa!
- DVD ffitrwydd Davina Mccall (dal yn ei seloffen ers 2 flynedd, ond o leiaf fydd e ddim wedi’i grafu pan dwi’n ei chwarae)
- DVD Pilates Darcy Bussell (Dwi wedi defnyddio hwn sawl gwaith – ond dwi yn credu y gadawais i fe mas o’r cas ac MAE llawer o grafiadau arno, efallai na fydd e’n gweithio)
- Cylchedu yn y lolfa (dipiau mainc, cyrcydu, ymwthiadau, ymeisteddiadau, siswrn ochr, planc, cyrcydu a neidio – does dim esgus am grafiadau yma)
- Wii Fit – Mae gêm rhedeg arno fe – bydd e’n golygu rhedeg yn yr unfan. Ac mae rhaglen ioga a chydbwysedd etc. Dwi ddim wedi’i gosod eto. Ydw i’n mynd i wneud yr ymdrech?
Nodiadau rhedeg: Dwi’n mynd i gofrestru ar gyfer rhai rasys parc a dwi’n bwriadu ymweld â pharc gwahanol yn Abertawe bob wythnos neu ddwy i redeg mewn awyrgylch newydd. Mae 85 o barciau a mannau gwyrdd yn Abertawe. Ar fy rhestr yn barod:
- Parc Singleton
- Parc y Clun
- Y Mwmbwls (ar hyd yr arfordir)
Pan fo fy soffa’n sgrechian ‘alli di ddim gwneud hyn, dere yma am bopgorn’, dwi’n trio cadw ymdeimlad rhedeg hanner marathon ar flaen fy meddwl. Mae’r dorf yn mynd yn wyllt ac mae pobl yn rhoi siocled a diodydd i chi ac rydych chi’n meddwl dwi mor falch hyfforddais i am hyn (neu, yn f’achos i, pe bawn i ond wedi hyfforddi mwy am hyn). O a chewch chi ymdeimlad mawr o gyflawniad hefyd. Mae cynllun hyfforddi 12 wythnos Abertawe Actif yn rhoi’r fformiwla berffaith ar gyfer paratoi’ch coesau. Dwi’n dilyn hwnnw I’R EITHAF!
Wela’ i chi’n fuan, bobl.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English