Yr wythnos hon, cyhoeddodd George Ezra y bydd yn cynnal ‘Taith GYFRINACHOL’, sef taith am bythefnos o gwmpas y DU ac Iwerddon sy’n dechrau yn Belfast ar 26 Mai, ac sy’n cynnwys perfformiad yn Neuadd Brangwyn Abertawe hefyd (Dydd Sadwrn 3 Mehefin).Bydd yn perfformio caneuon newydd sbon am y tro cyntaf yn ystod deg gig mewn lleoliadau cartrefol. Bydd cyfle i brynu tocynnau ymlaen llaw am 9am ar 5 Ebrill (cofrestrwch yma erbyn 12pm ar 4 Ebrill i gael mynediad). Bydd tocynnau ar werth yn gyffredinol am 9am ar 7 Ebrill. Ewch i georgeezra.com am fwy o wybodaeth am docynnau.
DIGWYDDIADAU GWYCH ERAILL YN NEUADD BRANGWYN
Ar ôl rhyddhau dau albwm, Did You Hear the Rain? ym mis Hydref 2013 a Cassy O’ ym mis Mawrth 2014, daeth George Ezra yn enwog iawn ar ôl rhyddhau ei gân boblogaidd, “Budapest”, a gyrhaeddodd y 10 uchaf mewn sawl gwlad ledled y byd, a rhif un yn Awstria, Gwlad Belg, Seland Newydd a’r Weriniaeth Tsiec. Roedd albwm cyntaf George Ezra, ‘Wanted on Voyage’, a drodd yn blatinwm dair gwaith, yn un o dri albwm artist mwyaf llwyddiannus y DU yn 2014 a 2015, gan gyrraedd rhif 1 yn siartiau’r DU a threulio 122 o wythnosau yn y siartiau’n gyffredinol. Mewn ychydig dros 18 mis, aeth George Ezra o fod yn anhysbys i fod yn un o’r artistiaid newydd mwyaf yn rhyngwladol, gan gyhoeddi albwm 10 uchaf mewn 10 gwlad, tair taith yn y DU lle gwerthwyd pob tocyn, a derbyn enwebiadau ar gyfer pedair gwobr BRIT, un Wobr Gerddoriaeth y BBC a gwobr Ivor Novello.
Ar ei wefan swyddogol, meddai Ezra y canlynol am ei daith sydd ar ddod:
“Nid oes angen i mi grybwyll y ffaith fy mod wedi bod yn eithaf tawel dros y flwyddyn ddiwethaf,” meddai George. “Ond hoffwn eich sicrhau fy mod wedi bod yn gweithio ar yr hyn a fydd, un diwrnod, yn ail record. Cymerodd sbel i fi benderfynu ar yr hyn yr oeddwn am ei ysgrifennu, ac yna sut i fynd ati i gyflawni’r broses ysgrifennu a recordio.
“Nid wyf am ddatgelu gormod am y record, ond hoffwn eich gwahodd i ymuno â fi ar fy nhaith ddychwelyd gyntaf. Bydd y daith hon yn wahanol i unrhyw daith rwyf erioed wedi ei gwneud am sawl rheswm, ond yn bennaf oherwydd dyma’r tro cyntaf i mi ganu nifer o ganeuon newydd sbon yn fyw. Bydd aelodau newydd yn rhan o’r band a byddwn yn penderfynu ar y rhestr ganeuon orau, a’r ffordd orau o gyflwyno’r caneuon. Byddwn yn rhoi llai o ffocws ar addurno’r llwyfan ac yn canolbwyntio mwy ar gyflwyno’r sioe orau bosib. Wrth gwrs byddwn yn canu’r caneuon George Ezra mwyaf poblogaidd hefyd!
“DEWCH I YMUNO Â NI! Ond peidiwch â dweud gair, mae’r daith hon yn gyfrinach…”
Mae Neuadd Brangwyn yn enwog am ei hacwsteg ardderchog, a chynhaliwyd nifer o berfformiadau genres gwahanol gan nifer o artistiaid sy’n enwog yn fyd-eang megis Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Manic Street Preachers, Bullet for My Valentine, Nicole Benedetti, Bryn Terfel, Elvis Costello a Katherine Jenkins.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English