Mae’r Gemau Olympaidd ar fin cychwyn! Ar ôl pedair blynedd o aros, mae’r wlad yn barod am aur unwaith rhagor yn dilyn llwyddiant Tîm PF yn Llundain 2012, mae’r wlad yn barod am aur unwaith rhagor. Gyda 29 o fedalau aur, 17 arian a 19 efydd, roedd perfformiad Tîm PF yn anhygoel, gan ennill ein balchder am orffen yn drydydd yn y tabl medalau terfynol a chan ddangos i’r byd ein bod ni, fel Prydeinwyr, yn ddawnus yn y chwaraeon rydym yn dwlu arnynt.
Os ydych yn dwlu ar chwaraeon ond yn annhebygol o ymweld â Rio, yr unig le i fod yr haf hwn yw Abertawe Actif! Gallwch gymryd rhan mewn bron pob un o’ch hoff chwaraeon Olympaidd ar draws ein 5 ganolfan, gan gynnwys nofio, beicio, rhedeg a mwy! Gydag ein campfeydd llawn adnoddau, pyllau nofio a thros 120 o ddosbarthiadau ffitrwydd yr wythnos, mae yna rywbeth i bawb o bob oedran a gallu. Edrychwch ar gyfleusterau ym mhob un o’n canolfannau ynghyd a’n rhaglen o ddosbarthiadau ffitrwydd, a chymerwch ran yn eich Gemau Olympaidd eich hunain.
Cofiwch y gallwch wylio’r Gemau Olympaidd yn fyw ar ein sgriniau ar ein peiriannau LF Connect!
Mae yna hwyl Olympaidd i’r rhai bach hefyd! Yn ogystal â’n rhaglenni gwyliau haf llawn, bydd Canolfan Hamdden Penyrheol yn cynnal Gwersyll Aml-gamp Olympaidd! Wedi’i ddylunio ar gyfer plant 8-14 oed, byddai’n yn cynnwys nifer o ffefrynnau Olympaidd gan gynnwys beicio, badminton, nofio a llawer mwy! Bydd hefyd yn cynnwys seremonïau agor a chau!
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English