Mae Llyfrgell Townhill wedi’i hadnewyddu diolch i brosiect adnewyddu a ddechreuodd fis Tachwedd diwethaf ac a fydd yn cael ei gwblhau ym mis Chwefror.
Cyngor Abertawe sy’n gyfrifol am y gwaith adnewyddu, gyda chyllid gwerth oddeutu £125,000 gan Is-adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru.
Bydd y llyfrgell, sydd yng Nghanolfan y Ffenics ar Rodfa Powys, ar gau drwy gydol y gwaith adnewyddu, a bydd llyfrgelloedd Sgeti, Brynhyfryd, Fforestfach ac Abertawe Ganolog ar gael i ddefnyddwyr yn y cyfamser.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Bydd y prosiect adnewyddu yn Llyfrgell Townhill yn helpu Ymddiriedolaeth Datblygu Cymunedol yr Hill i wneud y newidiadau angenrheidiol yng Nghanolfan y Ffenics, ond bydd hefyd yn rhoi golwg a naws newydd i’r llyfrgell o ganlyniad i ailfodelu’r lle fel y mae ar hyn o bryd a chyflwyno silffoedd a dodrefn newydd. Bydd hyn o fudd i ddefnyddwyr Llyfrgell Townhill pan fydd y cyfleuster yn ailagor y flwyddyn nesaf oherwydd bydd yn helpu i ddiwallu eu hanghenion yn y dyfodol.
Bydd y llyfrgell ar ei newydd wedd yn cael ei hagor yn swyddogol ddydd Llun 12 Chwefror gan Arglwydd Faer Abertawe.
Mae croeso i breswylwyr alw heibio, archwilio nodweddion newydd y llyfrgell a darganfod mwy am y rhaglen ddigwyddiadau sydd ar gael ar gyfer hanner tymor mis Chwefror a thu hwnt.
Beth sy’n Newydd?
- Llyfrgell fodern cynllun agored
- Ardal chwarae fwy i blant
- Wal Straeon Rhyngweithiol gyda nodweddion synhwyraidd a chwtsh darllen
- Llyfrau a DVDs newydd
- Dodrefn newydd gyda mwy o gyfleoedd arddangos
- Ardal TG newydd gyda desgiau newydd a mynediad am ddim i’r rhyngrwyd
- Sgrîn deledu sy’n dangos newyddion, gwybodaeth leol a digwyddiadau
- Cynllun Bag Llyfrau newydd gyda llyfrau i blant ac oedolion a ddewisir ymlaen llaw
Oriau agor (o ddydd Llun 12 Chwefror)
Am fwy o wybodaeth am Lyfrgell Townhill a digwyddiadau sydd ar ddod ewch i abertawe.gov.uk/LlyfrgellTownhill
Llyfrgell Townhill, Canolfan y Ffenics, Parc Paradwys,
Rhodfa Powys, Townhill, Abertawe SA1 6PH
01792 512370 | abertawe.gov.uk/LlyfrgellTownhill