Mae gweithred garedig ar hap gan staff llyfrgell yn Abertawe yn sicr wedi talu ar ei ganfed gyda rhodd o gyfarpar y bydd ugeiniau o blant yn elwa ohono.
Mis Medi diwethaf bu gwirfoddolwyr yn gweithio’n galed i helpu rhaglen DIY SOS: The Big Build gan y BBC, gan adeiladu canolfan gefnogaeth gyfoes a fflatiau i bobl ifanc sy’n gadael gofal yn Fforest-fach.
Un diwrnod roedd y tywydd yn wael iawn ac roedd llyfrgellwyr yn Llyfrgell Fforest-fach, a gynhelir gan Gyngor Abertawe, wedi cynnig eu hystafell staff i’r rheiny a oedd yn cymryd rhan er mwyn iddynt newid o’u dillad gwlyb.
Ymhlith y rheiny a fanteisiodd ar y cynnig oedd James Harper, Rheolwr Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol Cymdeithas Adeiladu Principality. Roedd e’n ddiolchgar iawn am y seibiant o’r glaw, ac felly gadawodd ei gerdyn busnes gyda rheolwr y llyfrgell, Jane Walters, gan ofyn iddi ei ffonio os oedd unrhyw beth y gallai ei wneud i helpu’r llyfrgell.
Ers dod yn rheolwr, roedd Jane wedi bod yn awyddus i ddechrau Clwb LEGO ar gyfer y plant ond nid oedd gan y llyfrgell y blociau adeiladu plastig angenrheidiol i ddechrau’r fenter.
Roedd James yn barod iawn i helpu ac mae newydd adael rhodd o setiau LEGO yn ogystal â chyfarpar arall i’r llyfrgell.
Meddai Jane, “Mae plant ifanc yn dwlu ar straeon a llyfrau ond wrth iddynt fynd yn hŷn mae rhai plant yn colli diddordeb mewn llyfrau a darllen. Gan fod sgiliau llythrennedd da yn hanfodol, rwy’n gobeithio annog plant i ddwlu ar lyfrau unwaith eto drwy eu hannog i ddefnyddio eu dychymyg i greu golygfeydd o straeon.
“Anfonais e-bost at James i ofyn iddo os oedd yn gallu fy nghefnogi gyda’r nodau hyn. Mae wedi rhoi setiau LEGO gwych i ni, gan gynnwys robot y gellir ei raglenni. Yn ogystal â hynny, rydym wedi derbyn iPad newydd er mwyn rhoi bywyd i’r robot.
“Bydd y rhodd gwych hwn yn ein galluogi i gynnal gweithgareddau llythrennedd a STEM gyda LEGO. Rwy’n edrych ymlaen at gael llyfrgell sy’n llawn plant yn cael hwyl. Mae gweithred fach o garedigrwydd ar ein rhan ni yn bendant wedi arwain at wobrau ardderchog.”
Meddai James ei fod yn falch o fod wedi gallu helpu.
Ychwanegodd, “Bob blwyddyn rydym yn cefnogi llawer o brosiectau cymunedol gwahanol ar draws Cymru. Mae’n fraint i gefnogi tîm brwdfrydig Llyfrgell Fforest-fach, sy’n gweithio’n galed iawn i ddarparu canolfan ddysgu wych i breswylwyr lleol, yn enwedig pobl ifanc.
“Rydym yn gobeithio y bydd ein rhodd o iPad a setiau LEGO yn rhoi cyfle i’r bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau dylunio ac adeiladu, ynghyd â sgiliau cyfathrebu a gwaith tîm ehangach.”
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Fel y bydd unrhyw un a fu’n gwylio rhaglen arbennig Plant mewn Angen DIY SOS y BBC yn ei wybod, cafwyd cymaint o ganlyniadau cadarnhaol ohoni.
“Diolch i garedigrwydd staff ein llyfrgell a haelioni cwmnïau fel Cymdeithas Adeiladu Principality, mae’r straeon hyn o newyddion da yn parhau.
“Mae ein llyfrgelloedd yn Abertawe’n adnodd gwych i bobl ifanc ac maent yn cynnig gweithgareddau niferus i annog pobl ifanc i ddarllen llyfrau ac ehangu eu dychymyg. Rwy’n siŵr y bydd y Clybiau LEGO newydd yn llwyddiant mawr.”