Efallai fod rampiau, rheiliau a phibellau chwarter yn swnio fel pethau o lawlyfr plymwr.
Ond mewn gwirionedd maen nhw’n enwau cyfarpar stryd mwyaf poblogaidd y byd sglefrio a byddant ar gael i’w gweld yn Sgwâr y Castell ddydd Sadwrn 21 Mai ar gyfer trydedd Ŵyl Stryd, Sglefrio a Champau ein dinas.
Bydd sglefrfyrddwyr, sgwtwyr, llafnrolwyr a’r rhai sy’n chwilio am wefr yn ganolbwynt y digwyddiad, a drefnir gan Gyngor Abertawe.
Bydd y digwyddiad, a fydd yn para diwrnod, yn dathlu lansiad y fenter ParkLives, sy’n addo haf o weithgareddau a hwyl am ddim, yn ogystal â gweithgareddau rheolaidd a pharhaus ym mharciau’r ddinas. Cynhelir y fenter yn lleol gan Gyngor Abertawe ar y cyd â Coca-Cola Great Britain.
Meddai Liz Lowe, Arweinydd ParkLives yn Coca-Cola Great Britain, “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at lansiad ParkLives yn yr Ŵyl Stryd, Sglefrio a Champau yn Abertawe. Nod ParkLives yw rhoi cyfleoedd i bobl Abertawe gymdeithasu â theulu a ffrindiau, dod ynghyd fel pobl â syniadau tebyg a mwynhau manteision bod yn yr awyr agored yn amlach.”
Bydd gan y rhai nad ydynt wedi bod ar sglefrfwrdd neu wedi gwisgo esgidiau rholio o’r blaen y cyfle i roi cynnig ar gampau eraill neu wylio’r arbenigwyr yn dangos eu doniau ar y dydd.
Meddai Frances Jenkins, Rheolwr Strategol Cyngor Abertawe ar gyfer Diwylliant, Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau, “Mae’r digwyddiad hwn yn un o lawer sy’n cael eu trefnu ar gyfer canol y ddinas er mwyn hybu ei fywiogrwydd a chreu mwy o fasnach i fusnesau lleol. Mae hefyd yn un o’r digwyddiadau mwy sy’n dechrau rhaglen ddigwyddiadau’r haf Joio Bae Abertawe.
“Mae’r Ŵyl Stryd, Sglefrio a Champau’n wych i’r rhai sy’n cymryd rhan ynghyd â gwylwyr, ond mae hefyd yn bwysig i gefnogi uchelgais y cyngor i gynnwys pobl mewn gweithgareddau corfforol.
“Mae’r gerddoriaeth fyw a’r dawnsio stryd sydd hefyd yn cael eu trefnu yn golygu y bydd adloniant gwych ar gael i’r miloedd o bobl a fydd yn ymweld â chanol y ddinas ar y diwrnod.”
Bydd ymwelwyr â Sgwâr y Castell hefyd yn gallu rhoi cynnig ar Parkour – disgyblaeth hyfforddi a ddatblygodd o hyfforddiant cyrsiau rhwystrau milwrol lle mae pobl yn ceisio mynd o A i B yn y ffordd fwyaf effeithlon bosib.
Daw’r adloniant byw gan Lockdown, Exist Skatepark (CUSP), KBAM Ltd. Parkour, Solar Dance, Thars, IDA Dance Company, Dance Wales UK, a Dani Dee’s School of Dance.
Daw’r gerddoriaeth gan DJ Daz a bydd campau gan Abertawe Actif, Beicwyr Gŵyr, Bikeability, Campau Stryd Abertawe, Wheelrights, Beicio Cymru, Swansea City Roller Derby a Reaper Roller Derby hefyd yn perfformio.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English