Bydd digwyddiad Gwledd y Gaeaf ar y Glannau poblogaidd Abertawe yn ôl y Nadolig hwn – a bydd llyn iâ Admiral dan do am y tro cyntaf.
Mae tocynnau nawr ar werth ar gyfer y llyn iâ yng nghalon yr atyniad Nadoligaidd a fydd yn adlonni miloedd ym Mharc yr Amgueddfa o 16 Tachwedd i 6 Ionawr.
Bydd Gwledd y Gaeaf ar y Glannau hefyd yn cynnwys ffair i’r holl deulu gan gynnwys carwsél traddodiadol ac Olwyn Fawr 33m o uchder sy’n cynnig golygfeydd panoramig o Fae Abertawe a’r ddinas.
Cewch brofiad llawn adrenalin ar y Sky View, Snow Storm a’r atyniad newydd Ice Extreme.
Bydd yr ardal fwyd yn cynnwys uned gridyll newydd ar gyfer byrgyrs a selsig, ac uned felysion am ddanteithion melys, coffi a crèpes, a bar newydd gan fusnes Abertawe, Juniper Place.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Ni fyddai Nadolig yn Abertawe’n gyflawn heb ymweld â Gwledd y Gaeaf ar y Glannau – mae’n atyniad hudol iawn.
“Mae’n wych y bydd sglefrwyr ar lyn iâ Admiral, gyda cherddoriaeth Nadolig a goleuadau, yn gallu aros yn sych eleni ac ni fydd y glaw yn ymyrryd ar eu hwyl.
Mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau bellach yn ei 13 blwyddyn, a llynedd denwyd dros 160,000 o ymwelwyr.
Ychwanegodd Robert Francis-Davies “Ers i’r digwyddiad gychwyn, rydym wedi bod yn gweithio gyda Sayers Events o dde Cymru ar gyfer darpariaeth y ffair a’r arlwyaeth. Eleni, mae Sayers ynghyd ag 11th Hour yn rheoli Gwledd y Gaeaf ar y Glannau ar ran y cyngor. Rydym yn falch iawn o’u croesawu fel ein partner yn y digwyddiad.”
Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys oriau agor, prisiau tocynnau a theithiau ysgolion a grwpiau, ewch i www.nadoligabertawe.com. Mae tocynnau sglefrio iâ yn rhatach drwy eu prynu ymlaen llaw ar y we neu dros y ffôn – 0333 666 3366.