Daeth miloedd ohonoch i fwynhau atyniad gaeaf arobryn Abertawe y llynedd a’r newyddion cyffrous yw y bydd yn dychwelyd ar 18 Tachwedd ac yn parhau tan 8 Ionawr!
Ar gyfer yr 11eg flwyddyn, bydd Parc yr Amgueddfa (ar safle Amgueddfa Genedlaethol y Glannau) yn cael ei drawsnewid yn Wledd y Gaeaf ar y Glannau.
Y llynedd, mwynhaodd degau o filoedd o ymwelwyr sglefrio iâ ar lyn iâ Admiral a llyn sglefrio’r plant; ymweld â Groto Siôn Corn, a’r ffair bleser deuluol Nadoligaidd, bwydydd danteithiol o’r cabanau cinio Alpaidd a’r olwyn fawr!
Gwledd y Gaeaf ar y Glannau yw’r lle perffaith i ddathlu’r Nadolig.
Oriau Agor
Safle/Sglefrio/Ffair bleser | Dydd Gwener 18 Tachwedd – dydd Gwener 16 Rhagfyr (Yn Ystod y Tymor) | Dydd Sadwrn 17 Rhagfyr – dydd Llun 2 Ionawr (Gwyliau Ysgol) | Dydd Mawrth 3 Ionawr – dydd Sul 8 Ionawr (Yn Ystod y Tymor) | Eithriadau |
Dydd Sadwrn/dydd Sul | 10.00am – 10.00pm | 10.00am – 10.00pm | 10.00am – 10.00pm | Noson Agoriadol 5pm – 10pm Noswyl Nadolig 10 – 7pm Dydd Nadolig ar Gau Gŵyl San Steffan 12 ganol dydd – 7pm Nos Galan 10am – 10pm Dydd Calan 12 ganol dydd – 7pm Dydd Sul 8 Ionawr 10am – 7pm |
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English