Bydd miloedd o ymwelwyr yn tyrru i Gastell Ystumllwynarth Abertawe wrth iddo agor ei ddrysau ar gyfer tymor 2019.
Cyngor Abertawe a Chyfeillion Castell Ystumllwynarth sy’n cynnal yr atyniad, sy’n edrych dros y Mwmbwls a Bae Abertawe.
Bydd ar agor i’r cyhoedd rhwng 11am a 5pm bob dydd Mawrth i ddydd Sul o 12 Ebrill tan 29 Medi ac, am y tro cyntaf erioed, bydd ar agor bob penwythnos ym mis Hydref. Bydd ar gau ar ddydd Llun heblaw am wyliau banc.
Mae digwyddiadau sydd ar ddod yn cynnwys gweithdai defnyddio clai gyda David Marchant, artist o’r Mwmbwls, ddydd Sadwrn 13 Ebrill, helfa cwningod y Pasg a hwyl gyda chrefftau ddydd Sul y Pasg, sef 21 Ebrill.
Ddydd Sadwrn 27 Ebrill gall ymwelwyr deithio nôl mewn amser i gael blas ar fywyd canoloesol gyda’r ailgrëwyr o Abertawe, Gwerin y Gŵyr, yn ein digwyddiad newydd, Ysgol y Marchogion, a fydd yn dangos sut beth oedd byw fel marchog.
Gallwch ddysgu am gleddyf chwedlonol y Brenin Arthur yn y ddrama ‘The Sword in the Stone – A Parody’ ar Ŵyl Banc Calan Mai ddydd Llun 6 Mai.
Mae nodweddion y castell yn cynnwys hen waith celf o’r 14eg ganrif, pont wydr 30 troedfedd o uchder a grisiau preifat sy’n arwain o gromgelloedd i ystafelloedd a oedd yn cael eu defnyddio fel neuaddau gwledda.
Adeiladwyd Castell Ystumllwynarth yn wreiddiol ym 1106 ar ôl i Benrhyn Gŵyr gael ei gipio gan y Normaniaid. Roedd Brenin Edward I, a alwyd hefyd yn Edward Hirgoes a Morthwyl yr Albanwyr, wedi ymweld â’r castell am ychydig ym mis Rhagfyr 1284.
Mae gan y siop gyflenwad da o nwyddau ar gyfer y tymor newydd, gan gynnwys anrhegion unigryw sy’n arbennig i’r castell, fel mygiau, llieiniau sychu llestri, llyfrau lleol a deunydd ysgrifennu.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Fuddsoddi, Adfywio a Thwristiaeth, “Mae’r cyngor yn gweithio’n galed ar y cyd â Chyfeillion Castell Ystumllwynarth i gynnal yr atyniad hanesyddol hwn ac i drefnu digwyddiadau sy’n addas i deuluoedd.
“Aeth miloedd o bobl i Gastell Ystumllwynarth y llynedd i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau; rydym yn gobeithio y bydd niferoedd eleni cystal. Mae’r castell yn cynnig profiad o’r radd flaenaf i ymwelwyr sydd yr un mor ddifyr ag y mae’n addysgol, ac mae’n rhoi hwb i dwristiaeth yn Abertawe hefyd.
“Mae’n wych gweld rhaglen llawn digwyddiadau ar gyfer y flwyddyn arbennig hon pan fydd Abertawe’n dathlu 50 mlynedd fel dinas.”
Mae digwyddiadau eraill sydd ar ddod eleni’n cynnwys Creaduriaid Annifyr ar 25 Mai, Diwrnod Dreigiau a Daeargelloedd ar 27 Gorffennaf ac, i orffen gwyliau’r haf mewn steil, Diwrnod Tywysogion a Thywysogesau ddydd Llun Gŵyl y Banc mis Awst, sef 26 Awst.
Mae gwaith cadwraeth ychwanegol yn digwydd yn y castell eleni i ddiogelu capel yr Arglwyddes Alina. Bydd ymwelwyr â’r castell yn cael cyfle i ddysgu am rai o’r technegau a ddefnyddir i warchod yr adeilad.
Am fwy o wybodaeth am Gastell Ystumllwynarth a’i ddigwyddiadau sydd ar ddod, ewch i abertawe.gov.uk/castellystumllwynarth