Edrychwch ar yr hyn sy’n digwydd dros yn Abertawe Actif
Dewch i gael hwyl yn y dŵr gyda sesiynau nofio am ddim, offer chwyddadwy yn y pwll, Waterwalkerz, caiacio a hyd yn oed cyrsiau nofio carlam ar gyfer yr wythnos.
Mae gennym lawer mwy i’w gynnig hefyd, gan gynnwys aml-gampau, tenis bach, gymnasteg, pêl-rwyd, sglefrolio, sesiynau bownsio a chwarae a hyd yn oed gwersylloedd gydag Ymddiriedolaeth Gymunedol yr Elyrch.
Gallwch gael manylion llawn a gwybodaeth am y gweithgareddau cyffrous eraill a gynhelir yng nghanolfannau hamdden Abertawe Actif yn ystod gwyliau hanner tymor drwy fynd i www.abertawe.gov.uk/article/6923/Plant-Actif neu drwy ffonio un o’r canolfannau:
Canolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwallt – 01792 235040
Canolfan Hamdden Cefn Hengoed – 01792 798484/797082
Canolfan Hamdden Treforys – 01792 797082
Canolfan Hamdden Penlan – 01792 588079
Canolfan Hamdden Penyrheol – 01792 897039
Cofiwch y gallwch ymaelodi â Phlant Actif, sy’n caniatáu i bob person ifanc dan 16 oed ddefnyddio unrhyw sesiwn talu a chwarae am £15 y mis – sef £3.75 yn unig yr wythnos (mae peth ohono’n cael ei gynnwys yn ein gweithgareddau hanner tymor!)
Rhaglen Hanner Tymor Canolfan Hamdden Treforys
Rhaglen Hanner Tymor Canolfan Hamdden Penyrheol
Rhaglen Hanner Tymor Canolfan Chwaraeon Llandeilo Ferwalt
Rhaglen Hanner Tymor Canolfan Hamdden Penlan
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English