Oherwydd ein bod yng nghanol Abertawe, gallwn gynnig hyfforddiant cymorth cyntaf cost-effeithiol i gyflogwyr lleol heb yr angen am gostau teithio drud. Gall ein cyrsiau hyfforddiant cymorth cyntaf, a gyflwynir ar draws y ddinas gan ein Tîm Diogelwch Dŵr, roi’r sgiliau a’r wybodaeth ymarferol i’ch gweithwyr gyflwyno cymorth cyntaf yn y gweithle, gan eich helpu i gyflawni’ch rhwymedigaethau dan y rheoliadau iechyd a diogelwch yn y gweithle.
Ein Cyrsiau
Rydym yn cynnig amrywiaeth o opsiynau, gan gynnwys:
- Cymorth Cyntaf Brys – cwrs cyflwyno undydd sy’n ymwneud â’r hanfodion
- Cymorth Cyntaf yn y Gweithle – cwrs cymorth cyntaf tridiau trwyadl sy’n helpu cyfranogwyr i fynd i’r afael ag amrywiaeth o sefyllfaoedd gan gynnwys trawiad ar y galon, adfywio, llosgiadau a sgaldiadau, ac anafiadau i’r pen a’r asgwrn.
- Cymorth Cyntaf Pediatrig – cwrs deuddydd sy’n ddelfrydol i fusnesau sy’n ymwneud â phlant.
- Diffribiliwr Allanol Awtomatig (AED) – cwrs hanner dydd sy’n ymwneud â thechnegau adfywio a defnyddio dyfeisiau AED.
Achredir ein holl gyrsiau gan Sefydliad Achubwyr Bywyd Cymwys y Gymdeithas Achub Bywyd Frenhinol (IQL) a bydd y cyfranogwyr llwyddiannus yn derbyn gwobr IQL priodol.
Argaeledd
Ein cwrs nesaf yw Cymorth Cyntaf yn y Gweithle, sef cwrs tridiau sy’n dechrau ddydd Llun 23 Mawrth yn Neuadd y Ddinas rhwng 9.00am a 4.00pm yn ddyddiol tan ddydd Mercher 25 Mawrth.
Opsiwn Hyfforddiant ar y Safle
Rydym yn deall cost ac anhawster trefnu hyfforddiant i weithwyr oddi ar y safle. Dyna pam ein bod yn hapus i gyflwyno hyfforddiant ar y safle i grwpiau. Ffoniwch ein Tîm Diogelwch Dŵr ar 01792 635162 i drafod eich gofynion neu ewch i www.abertawe.gov.uk/firstaid.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English