Mae’r nosweithiau’n tywyllu, mae ias yn yr awyr ac yn ystod hanner tymor mis Hydref bydd ysbrydion a bwganod yn dod allan i chwarae yn Abertawe!
Mae wythnos fwganllyd ar ddod yr hanner tymor hwn yn llawn gweithgareddau Calan Gaeaf arswydus i ddiddanu’ch angenfilod bach!
Darllenwch ymlaen i ganfod pa ddigwyddiadau dychrynllyd sydd ar ddod…os rydych chi’n ddigon dewr!
Ysbrydion yn y Ddinas
27 Hydref, Dinas Abertawe
Mae Ysbrydion yn y Ddinas yn dychwelyd i ganol dinas Abertawe ddydd Sadwrn 27 Hydref 2018 ar gyfer dathliad Calan Gaeaf nodedig am ddim, ‘Diwrnod y Meirwon!’
Ymunwch â ni o 11am lle bydd Sgwâr y Castell yn llawn addurniadau, baneri a garlantau blodau Mecsicanaidd, ac wrth gwrs y lluniau penglogau enwog.
Nosweithiau Calan Gaeaf Bwganllyd
30 – 31 Hydref, Plantasia
Arswyd y byd! Dewch mewn i’n jyngl llawn gwe corynnod dychrynllyd am noson o hwyl Calan Gaeaf, llwybrau bwganllyd ac adrodd straeon iasol – efallai y byddwch yn dod wyneb yn wyneb â thrychfilod go iawn… os rydych yn ddigon dewr!
Trên Bwganod Nos Galan Gaeaf
30 – 31 Hydref, Prom Abertawe
Ydy’ch tocynnau gennych? Yn galw ar bob fampir, sombi, gwrach a bleidd-ddyn – dewch yn llu ar y Trên Bwganod!
Mae’r Trên Bwganod yn dychwelyd y mis Hydref hwn i deithio ar hyd Prom Abertawe am noson yn llawn dychryn a difyrrwch! Ond gwyliwch – efallai y bydd pob math o ysbrydion ac ellyllon yn dod allan i chwarae wrth i chi fynd heibio’r fynwent fwganllyd…
Castell Bwganllyd Llawn Arswyd
31 Hydref, Castell Ystumllwynarth
Profiad castell bwganllyd cyntaf Abertawe… dewch os rydych yn ddigon dewr! Gyda channoedd o flynyddoedd o hanes arswydus, nid yw cestyll ar gyfer y gwangalon – yn enwedig yn ystod y nos – ac fel bob castell sy’n werth ei halen, mae gan Gastell Ystumllwynarth ei ysbryd ei hun.
Ysbrydion yn yr Amgueddfa
Ddydd Iau 1 Tachwedd
Ymunwch yn yr hwyl arswydus yng ngweithdy Calan Gaeaf Amgueddfa Abertawe
Tocynnau ar werth yn fuan