Mae mis Rhagfyr eisoes wedi cyrraedd ac mae’r Nadolig yn nesáu. Ond peidiwch â phoeni os nad ydych hyd yn oed wedi ystyried dechrau’ch siopa Nadolig eto!
Mae Marchnad Nadolig Abertawe wedi dychwelyd ac mae ganddi amrywiaeth o anrhegion. Hefyd ym Marchnad Abertawe gallwch ddod o hyd i gynnyrch ffres gwych er mwyn paratoi gwledd Nadoligaidd flasus. Mae Groto Siôn Corn wedi cyrraedd y dref hefyd (yn ogystal â’i goblynnod!) er mwyn eich helpu i baratoi’r teulu ar gyfer yr ŵyl.
Eleni yng nghanol Dinas Abertawe cewch brofiad siopa Nadolig fel nad ydych erioed wedi ei gael o’r blaen. A chofiwch brynu rhywbeth neis i’ch hun hefyd!
Mae Marchnad y Nadolig wedi dychwelyd!
Ni fyddai’r Nadolig yn Abertawe cystal heb y cabanau coch a gwyrdd enwog ar Stryd Rhydychen sy’n cynnig amrywiaeth anhygoel o gelf a chrefft, bwydydd blasus, addurniadau prydferth ac anrhegion unigryw.
Mae Marchnad y Nadolig ar agor tan nos Iau 21 Rhagfyr a chydag amrywiaeth o fasnachwyr newydd bob wythnos, rydych yn siŵr o ddod o hyd i rywbeth gwahanol bob tro y byddwch yn ymweld â hi!
Canfod mwy o wybodaeth am y farchnad ac oriau agor
Marchnad Abertawe – Popeth y mae ei angen arnoch am Nadolig perffaith
Ewch i Farchnad Abertawe ac ychwanegwch rywbeth arbennig at eich dathliadau Nadolig ar gyfer tymor yr ŵyl eleni!
dan ei chromen fawr mae dros gant o fasnachwyr Marchnad Abertawe’n cynnig croeso cynnes a bwydydd blasus iawn ar gyfer eich gwledd Nadoligaidd.
Ceir cigyddion, gwerthwyr pysgod a stondinau llysiau a ffrwythau o’r radd flaenaf sydd hefyd yng nghwmni masnachwyr sy’n cynnig anrhegion arbennig, addurniadau a hanfodion y Nadolig.
Eleni mae’r farchnad yn fwy Nadoligaidd nag erioed gyda’i harddangosfa Nadoligaidd yng nghanol cyntedd y farchnad yn ogystal â gorsaf hunlun Siôn Corn sydd wedi bod yn boblogaidd iawn! Mae hefyd ar agor 7 niwrnod yr wythnos yn y cyfnod cyn y Nadolig er mwyn gwneud eich siopa Nadolig yn haws nag erioed. Mae gan Farchnad Abertawe’r holl gynhwysion y mae eu hangen arnoch ar gyfer y Nadolig perffaith.
Groto Canol y Ddinas
Os ydych yn treulio diwrnod prysur yn siopa yng nghanol y ddinas, beth am gymryd saib ac ymuno yn hwyl yr ŵyl drwy ymweld â Groto Siôn Corn!
Gallwch ymweld â Groto Siôn Corn ar Stryd Portland (gyferbyn â Marchnad Abertawe) a dyma’r ffordd berffaith i godi hwyl yr ŵyl i chi a’ch teulu. Bydd coblynnod Siôn Corn ar gael i groesawu’ch rhai bach cyn iddynt gwrdd â’r dyn ei hun, a byddant hefyd yn derbyn anrheg i gofio am eu profiad!
Ond brysiwch – mae Groto Siôn Corn ar agor tan 21 Rhagfyr yn unig gan fod rhaid iddo ddychwelyd i Begwn y Gogledd i baratoi am y diwrnod mawr!
Oes angen help arnoch i wneud eich siopa?
Nid yw wedi bod yn daith siopa lwyddiannus oni bai fod eich breichiau’n llawn bagiau – ond nid yw hynny’n golygu ei fod yn hawdd eu cario o gwmpas!
Cofiwch y loceri cyfleus sydd ar gael yn Llogi Cyfarpar Symudedd, Gorsaf Fysus Abertawe, lle gallwch adael eich bagiau mewn lle diogel wrth i chi barhau i siopa neu gael seibiant.
O £2 yn unig, ffoniwch 01792 461785 am fwy o wybodaeth.