Ydy wir, mae jazz yn dychwelyd gyda Jazz Ryngwladol Abertawe ac artistiaid gwych y DU a thalent ryngwladol mewn rhaglen sy’n cynnig rhywbeth i bawb.
Nawr am y bedwaredd flwyddyn, cynhelir yr ŵyl o ddydd Iau 15 i ddydd Sul 18 Mehefin 2017 mewn lleoliadau ar draws Abertawe.
Prif artist dydd Sadwrn, sydd wedi gwerthu pob tocyn eisoes, yw Ruby Turner, seren fiwsig yr enaid, R&B a chantores arbennig. Hefyd wedi gwerthu pob tocyn ar gyfer ei sioe dydd Sul, ac yn dod â synau Earth, Wind & Fire i Abertawe yw All Fired Up, cerddorion o fand Strictly Come Dancing y BBC.
Mae tocynnau’n gwerthu’n gyflym ar gyfer prif artist dydd Gwener sef Joe Stilgoe, sy’n ganwr byd-enwog, pianydd a chyfansoddwr caneuon. Mae Songs on Film gan Joe yn talu teyrnged i ffilmiau poblogaidd, gan fod Joe yn hoff iawn o ffilmiau ac yn defnyddio’i gasgliad i ychwanegu ei offeryniaethau gwreiddiol a steilus at rai o’r munudau mwyaf cofiadwy yn hanes y sinema. Os nad ydych chi eisiau colli’r digwyddiad, archebwch eich tocynnau nawr.
Mae artistiaid gweddill y penwythnos yn cynnwys: Midland Youth Jazz Orchestra, Stan Tracey legacy, Oiks Trio, The Tony O’Malley Bang, Fraser & The Alibis, The Skelton / Skinner Best of British Septet, The Power of Gower Festival Big Band, The Remi Harris Trio, The Liane Carroll Trio, Chris Ingham Quartet.
Os nad yw hynny’n ddigon o gerddoriaeth wych i chi, ewch i un o’n digwyddiadau a’n gweithdai Festival Fringe.
I weld pob artist, gan gynnwys amseroedd a gwybodaeth prynu tocynnau, ewch i joiobaeabertawe.com.