Wrth i Abertawe aros i glywed am y cais i fod yn Ddinas Diwylliant 2021, mae’r ŵyl yn dod â rhai o ddoniau mwyaf a disgleiriaf y byd cerddoriaeth a’r celfyddydau ynghyd mewn dathliad o ddiwylliant dros bythefnos, rhwng 19 Medi a 15 Hydref 2017.
Cynhelir cyngherddau yn Neuadd Brangwyn, Neuadd Fawr Prifysgol Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau; bydd cynyrchiadau theatr a dawns mewn cydweithrediad â’r Grand a Theatr Taliesin ac arddangosfeydd celf gyfoes yn Oriel Mission a Galerie Simpson.
Bydd plant a phobl ifanc yn cyfrannu cryn dipyn at raglen eleni gyda’r prosiect addysg ysgolion ar Glychau Santiago, Gŵyl Gerddoriaeth Ysgolion Cynradd benodol, a’r ffefryn blynyddol, cyngerdd deuluol CGG y BBC. Ynghyd â’r rhestr o berfformwyr cerddoriaeth fyw a digwyddiadau yn Ysbyty Treforys, bydd gan ŵyl eleni rhywbeth at ddant pawb.
Bydd llu o ddoniau o Gymru ac o bedwar ban byd yn ymddangos yn yr ŵyl.
Daw Cerddorfa Symffoni St Petersburg i Abertawe i berfformio ar ganmlwyddiant y Chwyldro Rwsiaidd; Bydd Côr Meibion Dynfant a Chôr Meibion Clwb Rygbi Treforys yn ymuno am noson gofiadwy; Bydd CGG y BBC hefyd yn perfformio ail gyngerdd a fydd yn cynnwys y delynores Catrin Finch a’r arweinydd fydd Tecwyn Evans.
Rhagflas yn unig yw’r hyn sydd ar gynnig yn ystod Gŵyl Ryngwladol Abertawe – i gael y rhestr lawn o’r holl ddigwyddiadau ac i archebu tocynnau ar-lein, cymerwch gipolwg ar y wefan.
Lawrlwythwch eich rhaglen Gŵyl Ryngwladol Abertawe
Penwythnos Mawr Abertawe
Bydd yr ŵyl yn dechrau ychydig yn gynt eleni pan ailsefydlir Gŵyl Ymylol Abertawe, mewn cydweithrediad â Phenwythnos Mawr Abertawe, ar ôl absenoldeb o 20 mlynedd. Dros dridiau (29, 30 Medi ac 1 Hydref) daw Stryd Fawr Abertawe’n fyw gyda chomedi, bandiau, barddoniaeth a pherfformiad.