Mae’r amser bron â chyrraedd i godi’r llenni ar Ŵyl Ryngwladol Abertawe eleni, sef dathliad cerddorol a chelfyddydol blynyddol ein dinas, a chyda dros 20 o ddigwyddiadau’n cael eu cynnal mewn lleoliadau ar draws y ddinas, rydym wedi bod yn siarad â thîm yr ŵyl er mwyn trefnu’n dyddiadur ar gyfer pythefnos yr ŵyl!
Gyda’r ŵyl bellach yn un o ddigwyddiadau diwylliannol mwyaf Cymru, mae’n bwriadu cyflwyno’r gorau sydd gan y byd i’w gynnig i Abertawe a rhannu’r gorau sydd gan Abertawe i’w gynnig â gweddill y byd. Ac ni fydd dathliadau eleni’n wahanol!
Mae Cadeirydd yr Ŵyl, Mal Pope, yn sicr yn gwybod yr hyn y mae’n edrych ymlaen at ei weld. “Rwy’n ymwybodol o’r effaith y gall y celfyddydau ei chael, a fel Jac Abertawe balch, rwyf wrth fy modd bod gŵyl eleni mor gyffrous. O brofiad cwbl unigryw Nawr yr Arwr yn yr wythnos gyntaf i weld y meistr Syr Karl Jenkins ar waith, yn ogystal â phob dim arall, rwy’n cyfri’r dyddiau! Mae cynifer o bethau’n digwydd rwyf hyd yn oed wedi dechrau cadw rhaglen yr ŵyl yn fy nghar er mwyn i fi allu cofio’r holl ddigwyddiadau gwahanol rwyf am fynd iddynt!”
Y digwyddiad sy’n cyffroi’r ddinas fwyaf yw cyngerdd croeso’n ôl Syr Karl Jenkins yn Neuadd Brangwyn ar 6 Hydref. Bydd y gyngerdd gala gyffrous hon a fydd yn myfyrio ychydig ar ganmlwyddiant y Rhyfel Byd Cyntaf ond hefyd yn ymateb i wrthdrawiadau cyfredol, yn cael ei harwain gan y dyn ei hun a bydd yn cynnwys y perfformiad cyntaf erioed o’i waith diweddaraf, Lamentation, a gomisiynwyd yn arbennig gan yr ŵyl. Yn seiliedig ar gerdd gan ffoadur 13 oed o Syria, Amineh Abou Kerech, mae’r perfformiad cyntaf erioed yn addo bod yn un o uchafbwyntiau cerddorol y flwyddyn ac mae’n digwydd yma yn Abertawe. “Rwyf bob amser wedi bod yn hoff iawn o Syr Karl Jenkins,” meddai Mal wrthym. “Nid y ffaith ei fod wedi cael ei eni a’i fagu ym Mhenclawdd oedd wedi sbarduno fy niddordeb cychwynnol. Ei gerddoriaeth oedd yn gyfrifol – doedd ei gerddoriaeth ddim yn debyg i unrhyw gerddoriaeth arall. Bydd cael y cyfle i’w weld yn perfformio yn freuddwyd wedi’i gwireddu.”
Bydd cefnogwyr eraill Syr Karl Jenkins hefyd yn gyffrous i glywed mai nid cyfle i glywed ei gerddoriaeth a’i weld yn arwain yn unig fydd ar gynnig. Na – bydd tocynnau i’r gyngerdd hefyd yn cynnwys sgwrs arbennig iawn cyn y gyngerdd gyda Syr Karl Jenkins yn cael ei gyfweld gan Beverley Humphreys o BBC Cymru am 18:30 yn Neuadd Brangwyn.
Ac ar ôl y gyngerdd, bydd Cyfeillion Gŵyl Ryngwladol Abertawe’n cynnal croesawiad ar ôl y gyngerdd – cyfle unigryw i gwrdd â Syr Karl Jenkins ac aelodau Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC hefyd.
Ond peidiwch ag oedi os nad ydych eisoes wedi archebu tocynnau ar gyfer y ddau ddigwyddiad hyn – gyda phobl yn dod o bob cwr i weld Syr Karl, rydym wedi clywed bod bron pob tocyn wedi’i werthu!
Ond gyda phythefnos o ddigwyddiadau, mae llawer mwy i’w mwynhau. Nid Syr Karl Jenkins yw’r unig cyfansoddwr o Gymru a fydd yn rhan o’r ŵyl – meddai Mal wrthym am Ddathlu Daniel Jones ar 23 Medi hefyd. “Daniel Jones oedd un o gyfansoddwyr pwysicaf yr 20fed ganrif, ond yn anffodus mae ei waith wedi cael ei esgeuluso dros y blynyddoedd diwethaf. Nid cyfansoddwr yn unig oedd Dan – roedd hefyd yn athrylith, yn dorrwr codau Parc Bletchley ac yn ffrind gydol oes i Dylan Thomas. Byddwn yn cynnal digwyddiad dros ddiwrnod cyfan er mwyn dathlu ei fywyd, ei eiriau a’i gerddoriaeth, a byddwn yn teithio rhwng dau leoliad ar y Stryd Fawr, sef The Hyst a’r Eglwys Undodaidd, ac rwy’n siŵr y byddai Dan a gweddill Bois y Kardomah yn cymeradwyo’r syniad hwn.”
Mae Mal hefyd yn edrych ymlaen at The Boy and the Lion’s Head yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar 27 Medi. “Rwyf wrth fy modd bod gennym waith y bardd Peter Thabit Jones o Abertawe yn yr Ŵyl eleni. Cwrddais â Peter yn gynharach eleni i drafod sut gallem ei gynnwys yn ein 70fed flwyddyn, ychydig cyn iddo adael ar gyfer preswylfa awduron arall yng Nghaliffornia. Teimlaf weithiau ein bod yn dueddol o esgeuluso’n doniau ein hunain a’n straeon ein hunain yn Abertawe, fel yn achos Dan Jones. Mae The Boy and the Lion’s Head wedi’i osod yma yn Abertawe, ac ni fyddai unrhyw beth yn fy ngwneud i’n hapusach na gweld y gwaith hwn yn dod yn fyw.”
Bydd y rheiny sy’n hoff o gerddoriaeth siambr am archebu eu tocynnau ar gyfer y perfformiad cyntaf erioed yng Nghymru o ‘Four Fables’ gan Huw Watkins, wedi’i berfformio gan Gould Piano Trio a’r clarinetydd meistrolgar Robert Plane yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar 30 Medi. Hefyd ar restr berfformio’r noson honno fydd un o weithiau celf gorau’r 20fed ganrif, sef Quartet for the End of Time trosgynnol Oliver Messiaen, a ysgrifennwyd ganddo ym 1941 pan roedd yn garcharor rhyfel yn Stalag VIII-A.
Bydd perfformiad cerddorol arall gan bedwarawd Marmen yn Eglwys yr Holl Saint yn Ystumllwynarth ar 27 Medi hefyd. Wedi ennill cystadleuaeth y Cynghrair Tramor Brenhinol yn 2018, mae Steffan Morris, sy’n rhan o’r pedwarawd, yn dod o Gastell-nedd, ond dyma fydd ei ymweliad cyntaf ag Abertawe. Dywedodd aelod arall o dîm yr ŵyl, sef y Cyfarwyddwr Artistig Lyndon Jones, wrthym am y rhaglen ar gyfer y gyngerdd honno, sy’n cynnwys Beethoven, Adès aDebussy, y mae ei bedwarawd i linynnau’n un o’r pedwarawdau telynegol mwyaf swynol erioed. Fel meddai Lyndon, “ar y cyfan, mae’n anodd dychmygu noson o gerddoriaeth fwy hyfryd!”
Mae Mal hefyd yn awyddus i nodi cyngerdd Elin Manahan Thomas ar 2 Hydref. “Mae Elin yn wych. Roedd miliynau o bobl wedi mwynhau ei pherfformiad yn y Briodas Frenhinol eleni, a bydd Elin yn cynnal perfformiad bach i ni yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau ar 2 Hydref, gan esbonio’r rhwystrau a oedd yn wynebu menywod y gymdeithas Gymreig yn ystod y 100 mlynedd ers iddynt ennill yr hawl i bleidleisio, a chynnydd y menywod hynny. Mae’n noson arall a fydd yn arbennig iawn.”
Sicrhewch nad ydych yn colli’r arwr gitâr clasurol, Miloš Karadaglić, yn perfformio yn Theatr y Grand ar 5 Hydref. “Miloš yw un o’r artistiaid gwych sydd wedi llwyddo i ddenu cynulleidfa newydd” meddai Mal. “Mae’n defnyddio’r gerddoriaeth y mae’n hoff iawn ohoni ac yn ei rhannu â chynulleidfa nad oedd yn gwybod ei bod yn hoff o gerddoriaeth ‘glasurol’. Mae wedi perfformio mewn cyngherddau ar draws y byd a phan fydd yn camu ar lwyfan Theatr y Grand, bydd yn ychwanegu bach o swyn i’r ŵyl, rhywbeth rwy’n gwybod y bydd pobl Abertawe’n hoff iawn ohono.”
“A dyna yw dechrau’r holl gyffro’n unig – gyda Nawr yr Arwr, Gŵyl Ymylol Abertawe, Rob Brydon, Steve Balsamo a the Hyst…a mwy! Rydym yn siŵr o gael rhai wythnosau prysur iawn!” meddai Mal, gan chwerthin. “Ond am fraint i gael yr holl brofiadau hyn ar garreg ein drws…”
Cynhelir Gŵyl Ryngwladol Abertawe o ddydd Sadwrn 22 Medi tan ddydd Sul 7 Hydref. Gallwch gael mwy o wybodaeth ac archebu tocynnau yma.