Mae Penwythnos Mawr Abertawe yn ôl!
Abertawe yw’r unig le yng Nghymru sy’n gallu hedfan y Faner Borffor, felly y mis Medi hwn rydym yn dathlu gyda #PenwythnosMawrAbertawe.
Mae amrywiaeth o bethau i’w gwneud ar noson allan yng nghanol dinas Abertawe i’r teulu cyfan, a nod Penwythnos Mawr blynyddol Abertawe yw’ch cyflwyno i bob un ohonynt. A chydag Abertawe’n hedfan y Faner Borffor, rydych yn sicr o fwynhau noson allan ddiogel a difyr lle bynnag rydych yn mynd.
Adloniant Byw
Trefnir amrywiaeth enfawr o adloniant stryd ar draws canol y ddinas, sy’n golygu nad ydych byth yn bell o berfformiad. Bydd yr adloniant yn cynnwys dawnsio stryd, cerdded ar stiltiau, jyglo â thân, gitâr glasurol, sioeau swigod, bandiau drymiau ac amrywiaeth o berfformiadau cerddorol ar Lwyfan Haf Creative Bubble.
Yn ogystal ag adloniant ar y stryd bydd cerddoriaeth a chomedi fyw mewn lleoliadau ar draws Abertawe, gan gynnwys y No Sign Wine Bar, Sin City, The Vault a Gwesty’r Dragon. Gyda pherfformiadau gan The Somethings, Rory Bridgeman, Bus Boys a mwy, dewch i brofi sîn gerddoriaeth leol Abertawe ar ei gorau!
Marchnad Bwyd Stryd y Penwythnos Mawr
Nos Wener 29 Medi rhwng 4pm ac 8pm bydd danteithion ym Marchnad Bwyd Stryd y Penwythnos Mawr yn siŵr o dynnu dŵr o’ch dannedd. Bydd detholiad helaeth o nwyddau blasus ar gynnig ac mae amrywiaeth eang o fasnachwyr lleol eisoes wedi cadarnhau eu presenoldeb. O Babita’s Spice Deli i Sam’s Meat Roasts, o Popty Pizza i La Chandeleur Crepes a, chyda llawer mwy wedi’u cadarnhau, bydd rhywbeth at ddant pawb. A chofiwch olchi’r cyfan i lawr gyda chwrw, seidr neu goctel o The Wonder Bar.
Mae’r farchnad o flaen Castell Abertawe – y ffordd symlaf o ddod o hyd iddi yw dilyn yr holl arogleuon hyfryd!
Sinema Ryngweithiol: Grease
Dydd Sadwrn 30 Medi, dewch i ymuno yn yr hwyl yn Sgwâr y Castell gyda dangosiad awyr agored rhyngweithiol o Grease. Dewch i wylio wrth i Ysgol Berfformio Mark Jermin ddod â’r sioe gerdd boblogaidd yn fyw, a chenwch gyda’r ffilm wrth iddi ymddangos ar y Sgrîn Fawr!
Lle Diogel – Man Gwybodaeth
Mae ein statws Baner Borffor yn golygu y gallwch fod yn sicr o fwynhau noson ddiogel a difyr yn Abertawe lle bynnag y byddwch yn mynd, ac mae ein Lle Diogel – Man Gwybodaeth yma i’ch helpu.
Wedi’i staffio gan yr heddlu, bugeiliaid stryd a staff BID Abertawe ac wedi’i gefnogi gan Bartneriaeth Abertawe Mwy Diogel, bydd y Lle Diogel – Man Gwybodaeth ar ben Sgwâr y Castell rhwng 10pm a 4am nos Sadwrn 30 Medi.
I wybod mwy, lawrlwythwch raglen Penwythnos Mawr Abertawe ac edrychwch ar y map rhyngweithiol
Gŵyl Ymylol Abertawe
Mae Penwythnos Mawr Abertawe yn parhau i dyfu, gyda Gŵyl Ymylol Abertawe’n dychwelyd hefyd rhwng 29 Medi a 1 Hydref. Yn dychwelyd am y tro cyntaf mewn 20 mlynedd, bydd yr ŵyl ymylol yn cynnwys rhai o ddoniau amgen gorau Cymru yn y maes comedi a cherddoriaeth. Gyda mwy na 30 o ddigwyddiadau wedi’u trefnu ar draws y Stryd Fawr a’r tu hwnt, peidiwch â cholli dychweliad Gŵyl Ymylol Abertawe.
Cliciwch i weld y rhestr lawn o ddigwyddiadau a lawrlwytho’r rhaglen