Mae’r cennin Pedr wedi blodeuo ac mae naws wanwynol ym Mae Abertawe! Mae ein calendr digwyddiadau hefyd yn tyfu ac mae llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau ar waith ym Mae Abertawe’r mis Mawrth hwn.
Mae Sul y Mamau y penwythnos hwn. Methu meddwl am bethau i’w gwneud? Beth am ddod â’ch mam i’r cinio Sul y Mamau yn y Brangwyn. Bydd digwyddiad Sul y Mamau’n cynnwys cinio pedwar cwrs gwych, ardal i blant, gwydraid o rywbeth pefriog i’r mamau a pherfformiadau byw gan “Only Boys Aloud” a gyrhaeddodd rownd derfynol Britain’s Got Talent a hefyd Sherilyn Hamilton-Shaw o’r X-Factor.
I’r rhai hynny ohonoch sy’n hoffi cadw’n heini, dewch i ymarfer corff a chodi arian ar yr un pryd. Cynhelir Milltir Sport Relief Sainsburys ddydd Sul 20 Mawrth yn Lido Blackpill ac mae angen pobl leol i ddod ynghyd ac ymfalchïo oherwydd eu bod yn cymryd rhan. Rhaid sôn hefyd am yr amrywiaeth o weithgareddau a chyfleusterau sydd gael ym mhob un o Ganolfannau Hamdden Abertawe Actif.
I’r rhai ifanc sy’n hoffi pori mewn llyfr, mae Diwrnod y Llyfr ar 3 Mawrth yn gyfle i ysgolion a grwpiau meithrin gymryd rhan mewn diwrnod o weithgareddau yng Nghanolfan Dylan Thomas . Bydd y ganolfan hefyd yn cynnal amrywiaeth o weithdai ar gyfer pob oedran drwy gydol y mis. Ewch i dudalen y lleoliad am restr gynhwysfawr.
Mae Gŵyl Gymraeg Aberdewi yn dychwelyd i ganol Dinas Abertawe ddydd Sadwrn o 10:00am. Dewch i fwynhau perfformiadau byw, yr orymdaith, a dathlu ein ffawd ein bod yn byw mewn Cymru fodern, gyda’i diwylliant, ei hiaith a’i hamrywiaeth.
Mae ganTheatr y Grand lu o ddigwyddiadau’r mis Mawrth hwn, gyda’r lledrithiwr seicolegol Derren Brown yn serennu. Mae Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC yn dychwelyd i’rBrangwyn am noson wych arall o gerddoriaeth ar 11 Mawrth. Gallwch weld yr holl berfformiadau sy’n dod i’r Brangwyn fis Mawrth yma.
Mae Amgueddfa Abertawe yn parhau i gynnal Arddangosfa Abertawe a’r Rhyfel Mawr sy’n rhoi mewnwelediad gwych i chi o fywyd yn ystod y rhyfel. Mae Ysgrifwyr De Cymru hefyd yn falch o groesawu cyfrolau Letters After Lindisfarne am y tro cyntaf i Gymru. Gallwch weld rhestr lawn o ddigwyddiadau Amgueddfa Abertawe yma.
Yn olaf, os ydych yn hoffi bod yn greadigol, artist preswyl y mis hwn yn Glynn Vivian Oddi ar y Safle yn y YMCA yw Cheon Pyo Lee ac mae’r gweithdai dydd Sadwrn arferol a’r Black Kettle collective.
Gallwch weld rhestr lawn digwyddiadau mis Mawrth yma
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English