Mae’r haf wedi dod i Abertawe, a pha ffordd well i fwynhau’r haul na chyda diodydd braf a bwyd gwych gyda’ch ffrindiau? Newyddion da felly – mae’r Ŵyl Cwrw Almaenaidd yn dod i Barc yr Amgueddfa, Abertawe rhwng 3 a 6 mis Awst! Gallwch archwilio’r Pentref Almaenaidd, mwynhau diod yn yr awyr agored yn yr ardd gwrw, a chymryd sedd yn y Babell Ŵyl Fafaraidd am noson wych o adloniant!
Pentref Almaenaidd a Gardd Gwrw
Ond nid cwrw yw’r unig beth a fydd yn yr ŵyl! Byddwch hefyd yn darganfod Pentref Almaenaidd, gyda chabanau pren traddodiadol yn gwerthu popeth o selsig Bratwurst i gynnyrch Almaenaidd. Mae’n berffaith i deuluoedd, gyda’r ardal ddifyr yn darparu gweithgareddau Almaenaidd traddodiadol llawn hwyl i’r teulu cyfan eu mwynhau.
Yn yr ardd gwrw awyr agored, cewch fwynhau tri chwrw wedi’u bragu’n arbennig gan Bavaria Festbeer Brewery, gan gynnwys y Bavarian Weissbeer, Festbier a Craftbier. Bydd cwrw heb glwten ar gael hefyd! A pheidiwch â phoeni – os nad ydych chi’n hoffi cwrw, bydd ystod eang o seidrau, gwinoedd a diodydd meddal ar gael hefyd. Eisteddwch, ymlaciwch a mwynhewch ddiod gyda ffrindiau yn haul yr haf!
Bwyd Almaenaidd Blasus
Nid diodydd yn unig fydd ar gael yng Ngŵyl Cwrw Almaenaidd Abertawe, bydd amrywiaeth o fwyd traddodiadol a blasus o’r Almaen ac Awstria ar gael trwy’r penwythnos. Gyda Brezel, Bratwurst, Schnitzel, Hendl, a Schweinebraten ffres, opsiynau llysieuol a llawer mwy, mae rhywbeth at ddant pawb!
Pabell Ŵyl Fafaraidd
Y Babell Ŵyl Fafaraidd yw lle cynhelir y parti go iawn! Gyda’r nos (a phrynhawn dydd Sadwrn), gwnewch eich hun yn gyfforddus ar resi o feinciau traddodiadol a mwynhewch sioe DJ fyw, llawr dawnsio, gweinyddion yn gwisgo Lederhosen a mwy. Mwynhewch y cwrw, y caneuon a’r schnitzel, mae’n siŵr o fod yn noson fythgofiadwy!
Tocynnau
Does dim angen cael tocynnau i fynd i’r Pentref Almaenaidd, yr ardal ddifyr a’r ardd gwrw; gallwch fynd iddynt am ddim. Y Babell Ŵyl Fafaraidd yw’r unig ran o’r ŵyl lle mae angen tocyn arnoch, gyda nifer o ddewisiadau ar gael am brisiau gwahanol. Ond gan fod nifer y seddi’n gyfyngedig, mae tocynnau’n gwerthu’n gyflym!
I gael gwybodaeth lawn am brisiau, oriau agor ac i weld y wefan, cliciwch ar y botwm isod.