Bydd Mica Paris yn perfformio clasuron Ella Fitzgerald yn Proms yn y Parc y BBC nos Sadwrn 9 Medi ym Mharc Singleton yn Abertawe. Yn ogystal, bydd Cerddorfa Genedlaethol a Chorws Cymreig y BBC yn perfformio llu o ffefrynnau adnabyddus o’r byd ffilmiau a theledu, ynghyd â chaneuon Cymreig traddodiadol. Mae’r newyddion yn cyd-fynd â chyhoeddi’r rhestr lawn ar gyfer y noson a rhyddhau tocynnau ar ei chyfer.
Meddai Mica Paris, “Rwy’n edrych ymlaen yn eiddgar at ganu yn Proms yn y Parc y BBC ym mis Medi – bydd yn ddiwrnod gwych a byddwn wrth fy modd i’ch gweld chi i gyd yno!”
Bydd Rebecca Trehearn, y soprano o Gymru sy’n seren yn y West End ac sydd wedi ennill Gwobr Olivier yn ddiweddar, yn dod i’r llwyfan hefyd, yn ogystal â’r sacsoffonydd Jess Gillam, a gyrhaeddodd rownd derfynol Cerddor Ifanc y BBC yn 2016.
Meddai Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru, “Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at groesawu Mica Paris a’r holl gerddorion talentog eraill i Abertawe ar gyfer Proms yn y Parc eleni. Bydd amrywiaeth y perfformwyr eleni yn sicrhau noson wych arall o gerddoriaeth a chaneuon ac rwy’n gwybod y bydd cynhesrwydd a brwdfrydedd y gynulleidfa yn Abertawe’n creu digwyddiad gwirioneddol gofiadwy.”
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Gan fod Abertawe bellach wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Dinas Diwylliant 2021, rydym yn teimlo y gallwn honni mai Parc Singleton yw cartref naturiol Proms yn y Parc yng Nghymru.
“Rydym yn falch o gynnal Proms yn y Parc eto oherwydd ei fod yn ddigwyddiad ardderchog ag awyrgylch gwych bob amser. Bydd ymweliad arbennig gan Mica Paris yn sicrhau y bydd torf fawr yn dod o bob rhan o Gymru i ymuno â ni.”
Gwahoddir y sawl sy’n dwlu ar gerddoriaeth i ddod â phicnic a baneri i ddathlu yn y cyngerdd awyr agored yn Abertawe. Mae Proms yn y Parc yn rhan o’r diweddglo nodedig blynyddol i ddeufis o gerddoriaeth Proms y BBC. Bydd dathliadau byd-enwog y Noson Olaf yn lledaenu o Neuadd Frenhinol Albert yn Llundain a bydd miloedd o bobl yn dod ynghyd mewn lleoliadau ledled y DU i fod yn rhan o gyffro’r Noson Olaf.
Mae tocynnau bellach ar werth ar gyfer y digwyddiad, a gaiff ei gefnogi gan Gyngor Abertawe a’i gynnal nos Sadwrn 9 Medi. Prisiau tocynnau a brynir ymlaen llaw yw £12.50 i oedolion yn ystod mis Gorffennaf, gan gynyddu i £16 ar 1 Awst tan y diwrnod cyn y digwyddiad, a £18 ar y diwrnod. Mae mynediad am ddim i blant 12 oed ac iau sydd yng nghwmni oedolyn.
Gellir cael manylion diweddaraf y digwyddiad a phrynu tocynnau drwy fynd enjoyswanseabay.com/cy/events/proms-yn-y-parc-y-bbc