P’un ai ydych yn dychwelyd i Abertawe yn dilyn haf o wyliau neu’n dechrau’ch bywyd yn y brifysgol fel glasfyfyriwr y mis hwn, mae gennym fis llawn digwyddiadau gwych er mwyn i chi ddechrau’ch tymor cyntaf mewn steil!
Joiobaeabertawe.com yw’r LLE i ddod o hyd i ddigwyddiadau gwych a phethau i’w gwneud yn Abertawe. Wedi’i darparu i chi gan dîm Marchnata a Digwyddiadau Dinas a Sir Abertawe, mae Joio Bae Abertawe yma i’ch helpu i wneud y gorau o’ch profiad fel myfyriwr yn Abertawe.
O’n traethau i ddigwyddiadau mawr a bach, o ffilmiau a theatrau i’n parciau a’n prom godidog – mae cymaint i’w fwynhau yn Abertawe. Cymerwch gipolwg ar ein rhaglenni digwyddiadau, gwybodaeth am ein hatyniadau yn ogystal â blogiau rheolaidd sy’n awgrymu pethau y gallwch eu gwneud yn ystod y flwyddyn ym Mae Abertawe. Mae digonedd i’w wneud yn y bae hwn!
Cymerwch gip ar y digwyddiadau ENFAWR hyn sydd ar y gorwel…
CLUB MTV Abertawe – 24 Medith
Yn cynnwys saith awr o gerddoriaeth, cynhelir CLUB MTV Abertawe ym Marc Singleton y ddinas ddydd Sadwrn 24 Medi. Ymhlith y perfformwyr sydd wedi’u cadarnhau bydd Professor Green, Jonas Blue, Sigma, Nero, Redlight, R3wire a Varski.
Gŵyl Gwrw Almaenig – 22 Medi
Bydd yr “Oktoberfest” yn dychwelyd ar ôl gwerthu pob tocyn y llynedd gyda chyrfau Almaenig ledled yr Almaen! Bydd seiniau hirsefydlog, caneuon yfed a dawnsiau traddodiadol, ynghyd â bwydydd chwilboeth, yn ei gwneud yn noson gofiadwy.
PRYNWCH DOCYNNAU YMLAEN LLAW NAWR
You Me At Six – Neuadd Brangwyn – 6 Hydref
Ar ôl ennill bri fel un o’r bandiau byw gorau yn y DU, gan werthu pob tocyn ar gyfer eu teithiau, a bod yn brif berfformwyr yn Arena Wembley a’r O2, dyma gyfle gwych i’w gweld yn perfformio mewn lleoliad mwy cyfarwydd.
Ymunwch â theulu Joio Bae Abertawe.
Dewch o hyd i ni ar Facebook, Twitter, Instagram ac ymunwch â’n rhestr bostio i dderbyn diweddariadau cyson am ddigwyddiadau gwych ym Mae Abertawe!
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English