Mae’r ŵyl pedwar diwrnod yn digwydd dros benwythnos y banc ddiwedd Mai (25-28 Mai) mewn pedwar lleoliad, mewn pedair cenedl a dros bedwar diwrnod, gyda pherfformiadau gan yr enwau cerddorol mwyaf yn dathlu amrywiaeth ac ehangder cerddoriaeth fyw ar y BBC.
Ar draws y penwythnos cynhelir cyngherddau gan BBC Radio 1, 1Xtra & Asian Network, BBC Radio 2, BBC Radio 3 a BBC Radio 6 Music, gyda darlledu cynhwysfawr ar BBC One, BBC Two a BBC Four gyda pherfformiadau ar gael ar BBC iPlayer, ffonau symudol ac ar-lein.
Yr artistiaid sydd wedi eu hychwanegu at restr perfformiadau Penwythnos Mwyaf BBC Music yn Abertawe:
- Sam Smith
- Camila Cabello
- Liam Payne
- Rita Ora
- 30 Seconds To Mars
- George Ezra
- Stefflon Don
- Sigrid
- Mabel
Meddai Camila Cabello, “Dwi wedi cyffroi gymaint am gael bod yn rhan o’r Penwythnos Mwyaf. Methu disgwyl! Gweld chi yn Abertawe.”
Meddai Liam Payne, “Dwi llawn cyffro i gael chwarae yn Y Penwythnos Mwyaf – mae’n mynd i fod yn anhygoel. A dwi wrth fy modd i fod yn rhannu’r llwyfan gyda chymaint o artistiaid gwych – dwi’n methu disgwyl i ddod nôl i Abertawe!”
Meddai Sigrid, “Dwi’n methu disgwyl i chwarae yn Y Penwythnos Mwyaf eleni, a dwi mor hapus bod Radio 1 wedi ein gwahodd ni!”
Meddai Mabel, “Dwi di cyffroi gymaint i fod yn chwarae yn Y Penwythnos Mwyaf eleni. Mae’r rhestr perfformwyr wastad yn anhygoel felly mae cael bod yn rhan eleni yn fraint.”
Stefflon Don said, “Diolch Radio 1… dwi di cyffroi gymaint i fod yn chwarae yn Y Penwythnos Mwyaf yn Abertawe. Fydd hi’n WYYYYYCH.”