Bydd penwythnos penigamp o hwyl yr ŵyl yn dechrau dathliadau’r Nadolig yn Abertawe’r mis nesaf.
Yn ogystal â Gwledd y Gaeaf ar y Glannau yn agor ym Mharc yr Amgueddfa nos Wener, 17 Tachwedd, bydd y farchnad Nadoligaidd yn dychwelyd i Stryd Rhydychen ddydd Sadwrn 18 Tachwedd a chynhelir Gorymdaith a Chynnau Goleuadau’r Nadolig ddydd Sul, 19 Tachwedd.
Trefnir yr orymdaith eleni gan Gyngor Abertawe, a bydd blas ffilmiau â thema’r Nadolig a’r gaeaf iddi. Dyma un rhan o gyfres o ddigwyddiadau a gweithgareddau ‘Y Nadolig yn Abertawe’ sy’n llawn miri’r ŵyl.
Gan gynnwys ceir carnifal, gorymdaith, cerddoriaeth Nadoligaidd, corau, cymeriadau chwyddadwy enfawr a difyrwyr proffesiynol, bydd yr orymdaith yn teithio ar hyd Stryd y Gwynt, y Stryd Fawr, Stryd y Berllan a Ffordd y Brenin lle bydd Siôn Corn yn oedi i gynnau gweddill goleuadau’r Nadolig yng nghanol y ddinas ger y goeden Nadolig naturiol lle mae Ffordd y Dywysoges a Ffordd y Brenin yn cwrdd.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Gwnaethom ni rywbeth gwahanol y llynedd a chynhaliwyd y digwyddiad ar nos Iau ar lwyfan ar Ffordd y Brenin ond rydym ni wedi gwrando ar yr adborth ac, o ganlyniad, bydd Gorymdaith y Nadolig yn dychwelyd i ganol y ddinas ar nos Sul eleni.
“Er ein bod yn gweithio ar y manylion terfynol a’r amserau o hyd, cynhelir yr orymdaith a chynnau’r goleuadau nos Sul 19 Tachwedd ac edrychwn ymlaen at gynnal digwyddiad cofiadwy o adloniant Nadoligaidd sy’n addas i deuluoedd yng nghanol y ddinas ar gyfer ein preswylwyr a’n hymwelwyr.
“Mae’r orymdaith a chynnau’r goleuadau yn rhan o benwythnos penigamp o weithgareddau’r ŵyl, gan gyfuno popeth rydym ni’n ei gynllunio i gynnig dechrau cyffrous i’r Nadolig yn Abertawe. Cyhoeddir mwy o fanylion dros yr wythnosau nesaf wrth i’r Nadolig nesáu.
“Rydym yn gwneud pob ymdrech y Nadolig hwn – nid yn unig ar gyfer gorymdaith y Nadolig ond hefyd ar gyfer digwyddiadau, atyniadau a gweithgareddau eraill yng nghanol y ddinas er mwyn creu naws Nadoligaidd a denu nifer yr ymwelwyr y mae eu hangen ar ein masnachwyr yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn o’r flwyddyn.”
Gan ddechrau am 5pm, bydd gorymdaith y Nadolig yn gorffen yn ardal Theatr y Grand yn hytrach na Neuadd y Ddinas.