Bydd Proms yn y Parc yn dychwelyd i Abertawe yn nes ymlaen eleni.
Mae BBC Cymru bellach wedi cadarnhau y cynhelir y digwyddiad ym Mharc Singleton nos Sadwrn, 9 Medi.
Bydd y gyngerdd yn cysylltu â Neuadd Frenhinol Albert ar noson olaf y proms, ynghyd â chyngherddau eraill Proms yn y Parc y BBC yn Hyde Park, yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Cynhaliwyd Proms yn y Parc y BBC ddiwethaf yn Abertawe yn 2015, ar ôl ymweld â Pharc Eirias ym Mae Colwyn y llynedd.
Meddai Frances Jenkins, Rheolwr Strategol Cyngor Abertawe ar gyfer Diwylliant, Twristiaeth, Marchnata a Digwyddiadau, “Rydym yn falch ein bod wedi gallu gweithio mewn partneriaeth agos â BBC Cymru i ddod â Proms yn y Parc y BBC yn ôl i Abertawe ym mis Medi.
“Dyma’r 12fed tro y cynhaliwyd Proms yn y Parc y BBC yn y ddinas, sy’n adrodd cyfrolau am allu Abertawe i gynnal digwyddiadau mawr o’r maint hwn.
“Rydym yn disgwyl i oddeutu 8,000 o wylwyr fod yno, a chyda baneri’n chwifio, y cyfan yn cael ei ddangos ar sgrîn fawr a’r arddangosfa tân gwyllt draddodiadol ar ddiwedd y noson, mae’n sicr y bydd yr awyrgylch yno’n wych iddynt unwaith eto.
“Mae llwyddo i sicrhau Proms yn y Parc y BBC unwaith eto’n amlygu gallu diwylliannol Abertawe ar adeg pan rydym yn cyflwyno cais i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2021.”
Meddai Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru, “Mae’n wych bod Proms yn y Parc y BBC yn dychwelyd i Abertawe eto eleni.
“Mae’r gynulleidfa bob amser mor frwdfrydig a chroesawgar, ac mae’n addo bod yn noson hudol o gerddoriaeth a chân.”
Bydd Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC yn perfformio ar y noson, yn ogystal ag amrywiaeth o actau adloniant cymunedol cyn i’r prif ddigwyddiad ddechrau.
Caiff perfformwyr unigol ac arweinydd y digwyddiad eu cyhoeddi cyn bo hir, ynghyd â manylion am sut i brynu tocynnau.
Bydd arlwyo a bar ar gael ar y noson fel y gellir prynu bwyd a diod.
Ewch i www.joiobaeabertawe.com i gael y diweddaraf ar y digwyddiad.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English