Yn ogystal â siopau a marchnadoedd Nadoligaidd canol y ddinas, cofiwch y gallwch hefyd brynu anrhegion Nadolig hyfryd yn ein hatyniadau a’n lleoliadau diwylliannol gwych.
Os oes gennych docynnau i ddigwyddiadau neu rydych yn bwriadu ymweld ag un o’n lleoliadau gyda’ch teulu a’ch ffrindiau dros yr wythnosau nesaf, sicrhewch eich bod yn cael cipolwg ar yr anrhegion gwych sydd ar gael cyn i chi adael! Dewch i ddarganfod rhywbeth gwahanol y Nadolig hwn gyda dewis gwych o anrhegion, anrhegion hosanau a chofroddion lleol unigryw.
Angen ysbrydoliaeth? Dyma ddewis o rai o’r anrhegion y gallwch eu cael yn ein lleoliadau a’n hatyniadau, yn ogystal ag oriau agor dros y Nadolig; mae rhai ar agor Noswyl Nadolig – yn berffaith ar gyfer siopa munud olaf!
Theatr y Grand Abertawe
Beth am roi anrheg aelodaeth Clwb Theatr y Grand i’r rhai yn eich bywyd sy’n dwlu ar gerddoriaeth/y theatr?
Yn chwilio am anrhegion hosanau? Mae tocynnau Clwb Comedi, teithiau theatr a thalebau anrhegion (symiau gwahanol) ar gael – edrychwch yn y llyfryn tymor newydd i weld pa berfformiadau sydd ar ddod.
Mae anrhegion eraill yn cynnwys placiau er cof am bobl (ar gael ar sedd o’ch dewis am 25 mlynedd!), Casgliad Cyflawn Dylathon a llyfr clawr caled Theatr y Grand Abertawe sy’n nodi hanes llawn y theatr.
Oriau Agor (Swyddfa Docynnau):
Amgueddfa Abertawe
Amgueddfa Abertawe yw un o’r ychydig leoliadau sy’n cyflenwi canhwyllau Quinnell, a byddai eu dewis newydd o bersawrau â thema yn anrheg wych, yn ogystal â llenwi eich cartref ag arogl Nadoligaidd hyfryd!
Oriau Agor:
Canolfan Dylan Thomas
Yn chwilio am anrheg unigryw i berson sy’n dwlu ar Dylan Thomas?
O bennau, pensiliau, mygiau a phlatiau, i lyfrau â thema Dylan Thomas, CDs, DVDs, bagiau defnydd, posteri a chardiau nodiadau, bydd digonedd o ddewis gennych yng Nghanolfan Dylan Thomas!
Oriau Agor:
Plantasia
Mae gan Plantasia ddewis anhygoel o anrhegion hosanau sy’n berffaith i blant bach. Teganau meddal, beanies TY, llyfrau, wyau llysnafedd estronwr, nadroedd rwber, sbringiau enfys, setiau celf ffoil crafu, deinosoriaid, cylchoedd allweddi resin pryfed, breichledi – hyd yn oed cardiau Nadolig a pheli Nadolig wedi’u personoleiddio.
Mae gan Plantasia lwyth i ddewis ohonynt i ddiddanu plant bach ar Ddydd Nadolig.
Oriau Agor:
Gwasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg
Un arall sydd ar agor tan ganol dydd ar Noswyl Nadolig, mae gan Wasanaeth Archifau Gorllewin Morgannwg ddewis hyfryd o anrhegion Nadolig unigryw sy’n berffaith i unrhyw un â diddordeb mewn hanes lleol/Cymru ac archwilio’u hachau.
Mae anrhegion yn cynnwys cardiau Nadolig lleol, pecynnau hanes teulu cychwynnol, llyfrau hanes lleol a thywelion cegin sy’n dangos cestyll lleol.
Oriau Agor:
Canolfan Croeso Abertawe
Mae Canolfan Croeso Abertawe’n llawn syniadau gwych am anrhegion Nadolig, y mae llawer ohonynt â thema Abertawe/Cymru a fyddai hefyd yn berffaith i’w rhoi i ffrindiau neu berthnasau nad ydynt yn byw’n lleol.
Byddwch yn dod o hyd i gardiau, llyfrau, calendrau, corachod rygbi, addurniadau Nadolig, famiau gwersylla, tywelion cegin, jamiau a chatwad lleol, bara byr a chyffug – hefyd ceir amrywiaeth o gynnyrch defaid megis mygiau, matiau diodydd, cylchoedd allweddi, magnetau, bagiau jiwt a phyrsiau sy’n unigryw i Abertawe.
Oriau Agor:
Abertawe Actif
Rhowch anrheg chwaraeon y Nadolig hwn!
Mae talebau gwerth £5 a £10 ar gael o holl ganolfannau hamdden Abertawe Actif y gellir eu defnyddio ar gyfer dosbarthiadau ffitrwydd, nofio, badminton, tenis, ymaelodi â champfa a gweithgareddau eraill.
Oriau Agor:
Llandeilo Ferwallt
Penlan
Pentrehafod
Penyrheol
Cefn Hengoed
Treforys
Cysylltwch â’ch lleoliad dewisol am fwy o wybodaeth – rydym yn gobeithio y byddwch yn dod o hyd i rywbeth hyfryd ar gyfer y person arbennig yn eich bywyd yn un o’n lleoliadau y Nadolig hwn!
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English