Bydd diwrnod llawn hwyl yn dechrau dathliadau’r Nadolig yn Abertawe yn hwyrach y mis hwn.
Byddwn yn cyfri’r diwrnodau tan y Nadolig yn swyddogol o 18 Tachwedd am 4pm yng nghanol y ddinas gyda strafagansa o liwiau, cerddoriaeth, dawnsio a seremoni enwog cynnau goleuadau’r Nadolig gyda Siôn Corn ei hun.
Eleni, bydd yn serennu yn ei Antur drwy Amser ar hyd llwybr trwy ganol y ddinas rhwng Ffordd y Dywysoges a Ffordd y Brenin. Gall gwylwyr sefyll unrhyw le ar hyd y llwybr a chael yr un profiad oherwydd eleni, bydd pedair ardal adloniant ar hyd y llwybr, a bydd pob un yn cynnwys adloniant hudol.
Bydd cymuned Abertawe’n cefnogi Siôn Corn ar ei antur a bydd cwmnïau dawns a theatr gan gynnwys cwmni theatr Rising Stars, Mellin Theatre Arts ac ysgol ddawns Dani Dee yn ymuno ag ef. Bydd golygfeydd arbennig yn rhan o’r orymdaith, sy’n cynnwys technoleg ardderchog newydd ac effeithiau arbennig a fydd yn tywys gwylwyr i Nadolig y gorffennol, y presennol a’r dyfodol.
Bydd adloniant cyn y digwyddiad ar hyd y llwybr rhwng 4pm a 5pm, a bydd y brif orymdaith yn teithio ar hyd Ffordd y Dywysoges, Stryd Caer a Stryd y Coleg cyn cyrraedd diwedd y daith ar waelod Ffordd y Brenin.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Arloesedd, Adfywio a Thwristiaeth, “Mae Abertawe’n falch iawn o gael dathliadau’r Nadolig. Mae wir yn codi’r llen ar gyfer y Nadolig a bydd cynnau’r goleuadau’n ardderchog eleni.
“Yn ogystal, bydd Gwledd y Glannau’n dychwelyd i Barc yr Amgueddfa rhwng dydd Gwener 16 Tachwedd a dydd Sul 6 Ionawr am flwyddyn arbennig arall. Gwisgwch eich esgidiau sglefrio iâ oherwydd bydd y llyn iâ dan do clir eleni. Ynghyd â’r ffair hwyl i deuluoedd a chabanau bwyd blasus, ni fyddai’r Nadolig yn gyflawn heb ymweliad â’r lle.
Ceir nifer o bethau arbennig eraill ar gyfer dathliadau’r Nadolig hefyd.
“Caiff y gwaith ffordd ar Ffordd y Brenin ei atal dros dro dros gyfnod y Nadolig er lles y siopwyr a busnesau canol y ddinas. Mae dathliadau’r ŵyl yn adeg hanfodol o’r flwyddyn ar gyfer manwerthwyr ac ymwelwyr, ac rydym yn gwneud pob ymdrech i sicrhau y bydd canol y ddinas ar frig eich rhestr siopa am anrhegion eleni.”
Bydd pantomeim enwog Theatr y Grand yn dychwelyd eleni gyda Cinderella, ie’n wir! A seren y ddawns fydd ein seren leol, Kevin Johns, a fydd yn dathlu 20 mlynedd olynol fel hen wreigan Abertawe. Mae tocynnau eisoes ar werth ac maent yn diflannu’n gynt na gwin cynnes y gaeaf. Noson gyntaf y pantomeim yw 14 Rhagfyr a bydd yn para tan 13 Ionawr, 2019.