“Bu’n flwyddyn wych arall ar gyfer chwaraeon yn Abertawe.”
Mae TRIAWD o nofwyr penigamp yn y ras i ennill anrhydedd Chwaraewr y Flwyddyn yn Abertawe.
Mae Jazz Carlin, Georgia Davies a Jack Thomas wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer yr anrhydedd yng Ngwobrau Chwaraeon blynyddol Abertawe a gynhelir yn Theatr Penyrheol ddydd Iau 26 Chwefror.
Bydd yr enillydd yn dilyn ôl troed sêr sy’n cynnwys Non Stafford, Alun-Wyn Jones a rheolwr yr Elyrch, Garry Monk.
Gall aelodau’r cyhoedd fynd i’r gwobrau. Gallwch gael tocynnau o www.abertawe.gov.uk/sportsawards neu drwy ffonio 01792 897039.
Mae 14 categori gwahanol yng Ngwobrau Chwaraeon Abertawe eleni gan gynnwys Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn, Gwirfoddolwr y Flwyddyn, Chwaraewr Anabl Iau’r Flwyddyn a Thîm Ysgol Gynradd y Flwyddyn.
Enillodd Jazz Carlin, a fu’n hyfforddi tan yn ddiweddar ym Mhwll Cenedlaethol Cymru Abertawe, fedal aur yn ras dull rhydd 800 metr y menywod a medal arian yn y ras dull rhydd 400 metr i fenywod yng Ngemau’r Gymanwlad y llynedd yn Glasgow. Enillodd Georgia Davies, sydd hefyd o Abertawe ac a fu hefyd yn hyfforddi ym Mhwll Cenedlaethol Cymru, fedal aur 50 metr wrth nofio ar y cefn a medal arian wrth nofio ar y cefn yn y ras 100 metr yn yr un digwyddiad.
Enillodd Jack Thomas a Daniel Jervis, sydd wedi’u henwi ar gyfer y gwobrau ac yn parhau i hyfforddi ym Mhwll Cenedlaethol Cymru, fedalau efydd yn y ras dull rhydd S14 200 metr a’r ras dull rhydd 1500m yn ôl eu trefn.
Meddai’r Cynghorydd Mark Child, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Les a Dinas Iach, “Bu’n flwyddyn wych arall ar gyfer chwaraeon yn Abertawe. Yn ogystal â llwyddiant ein nofwyr gwych, mae’r Elyrch yn parhau i berfformio’n wych yn yr Uwch-gynghrair, mae nifer o’r Gweilch fel Rhys Webb a Dan Biggar wedi cadarnhau eu lleoedd yng ngharfan rygbi Cymru, a bu Abertawe’n cynnal Pencampwriaeth Athletau Ewropeaidd yr IPC fis Awst y llynedd.
“Ond mae chwaraeon yn Abertawe’n llawer mwy na’r timau elît a’r sêr. Mae hefyd yn ymwneud â’n pobl ifanc, ein clybiau, ein hyfforddwyr a’r gwirfoddolwyr sy’n cyfrannu gymaint i’n statws fel dinas chwaraeon flaenllaw. Dyma pam mae Gwobrau Chwaraeon blynyddol Abertawe’n cydnabod pobl sy’n rhan o chwaraeon ar bob lefel ar draws y ddinas. Hoffwn annog pobl i brynu tocynnau ac anrhydeddu ein sêr chwaraeon a’r arwyr chwaraeon anhysbys.”
I weld rhestr lawn o’r enwebeion ac i archebu tocynnau ar gyfer y seremoni arbennig, ewch i www.abertawe.gov.uk/sportsawards.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English