Gyda’r gwesteion arbennig, All Saints
Mae Gary, Mark a Howard yn dod â’u taith Wonderland Live â 22 o berfformiadau i Stadiwm Liberty ym mis Mehefin i ddathlu lansiad eu halbwm newydd, Wonderland.
Mae’r band hwn yn adnabyddus am ei sioeau byw gwefreiddiol ac, am y tro cyntaf, bydd y daith hon yn cynnwys eu prif lwyfan ar ganol llawr y stadiwm gan roi profiad bythgofiadwy i’r gynulleidfa.
Dyma’r tro cyntaf y bydd y rheiny sy’n dwlu ar Take That yn gweld caneuon o’r albwm newydd, Wonderland, yn cael eu perfformio, yn ogystal â llu o’u hen ffefrynnau wrth gwrs.
Am wybodaeth am docynnau, ewch i wefan Stadiwm Liberty
CYRRAEDD STADIWM LIBERTY
Gatiau’r digwyddiad yn agor am 4pm
Drysau’r stadiwm yn agor am 5pm
Cyrraedd yn y car
Bydd pecyn arwyddion cynhwysfawr yn ei le cyn y cyngerdd yn hysbysu’r rhai sy’n dod i’r cyngerdd o gyfleusterau parcio’r stadiwm.
Yn wahanol i gyngherddau blaenorol bydd angen cau’r ffordd yn ystod paratoadau’r digwyddiad (o 3pm). Bydd Ffordd Brunel ar gau rhwng ei chyffordd â Heol Normandy a’r A4217. Bydd angen cau ffordd dros dro hefyd ar ddiwedd y cyngerdd. Bydd ffordd ddeuol yr A4067 gyferbyn â’r stadiwm a Heol Castell-nedd (bydd mynediad i Heol Castell-nedd ar gyfer tacsis a bysus o hyd) ar gau am o leiaf hanner awr ar ôl i’r cyngerdd ddod i ben. (Bydd y ffyrdd yn ailagor cyn gynted â phosib, yn amodol ar ystyriaethau diogelwch).
Safleoedd parcio ceir
1 – Stadiwm Liberty
Gallwch gyrraedd y stadiwm o gyffordd 45 yr M4, gan ddilyn arwyddion yr A4067 (de) tuag at ganol dinas Abertawe. Bydd parcio yn y stadiwm ar y noson ar gyfer deiliaid hawlenni a drefnwyd ymlaen llaw’n unig. Ni fydd parcio cyhoeddus nac i’r anabl ar gael ar y safle.
2 – Safle parcio a cherdded glandwr Côd Post – SA1 2JT (Cyfeirnod Map ‘P2’)
Yn agor am 3pm, ac yn cau awr ar ôl diwedd y cyngerdd. Mae’r maes parcio hwn, sy’n safle parcio a theithio’n draddodiadol, yn gyfleuster parcio a cherdded ar gyfer digwyddiadau ac mae’n 5 munud o daith gerdded o’r stadiwm, ac mae mwy na 700 o leoedd ar gael. Dylai’r rhai sy’n gadael yr M4 wrth gyffordd 42 neu 45 ddilyn yr arwyddion ar gyfer y stadiwm ac yna’r arwyddion ar gyfer safle parcio a theithio Glandŵr.
Codir tâl o £15.00 y cerbyd.
Gallwch gadw lle yn y maes parcio hwn ymlaen llaw*.
3 – Tir ger Morrisons / Canolfan Tenis Abertawe Côd Post – SA1 7DF (Cyfeirnod Map ‘P3’)
Yn agor am 3pm, ac yn cau awr ar ôl diwedd y cyngerdd.
Codir tâl o £10.00 y cerbyd.
4 – Caeau chwarae Cwm Lefel Côd Post – SA6 8NJ (Cyfeirnod Map ‘P4’)
Yn agor am 1pm, ac yn cau awr ar ôl diwedd y cyngerdd. Dyma’r unig faes parcio ar ochr orllewinol y stadiwm a gellir ei gyrraedd drwy Heol Cwm Lefel. Gall oddeutu 1,000 o geir barcio yn yr ardal hon. Dylai’r rhai sy’n dod i’r cyngerdd sy’n gadael yr M4 ar gyffordd 45 ddilyn yr A4067 i’r ail gylchfan a chymryd y drydedd allanfa ar gyfer Heol Cwm Lefel. Mae’r maes parcio ar yr ochr chwith.
Codir tâl o £10.00 y cerbyd.
Gallwch gadw lle yn y maes parcio hwn ymlaen llaw*
5 – Ysgol Gyfun Pentrehafod Côd Post – SA1 2NN (Cyfeirnod Map ‘P5’)
Yn agor am 4pm, ac yn cau awr ar ôl diwedd y cyngerdd. Mae’r maes parcio hwn i’r de o’r stadiwm ar dir yr ysgol a gellir ei gyrraedd drwy Heol Pentre Mawr. Gall oddeutu 400 o geir barcio yma.
Codir tâl o £10.00 y cerbyd.
6 – Maes parcio Lyte Ladders Côd Post – SA7 9BB (Cyfeirnod Map ‘P6’)
Yn agor am 4pm, ac yn cau awr ar ôl diwedd y cyngerdd. Gall oddeutu 300 o geir barcio yn yr ardal.
Codir tâl o £10.00 y cerbyd.
7 – Parcio a Theithio Ffordd Fabian Côd Post – SA1 8LD
Yn agor am 3pm, ac yn cau awr ar ôl diwedd y cyngerdd. Mae hwn yn safle parcio a theithio sefydledig oddi ar C42 yr M4 gydag oddeutu 500 o leoedd.
Codir tâl o £10.00 y cerbyd.
Gallwch gadw lle yn y maes parcio hwn ymlaen llaw*
*I brynu eich tocynnau parcio ymlaen llaw ac i gael yr wybodaeth barcio ddiweddaraf, ewch i www.joiobaeabertawe.com/takethat
PARCIO I’R ANABL
Nid oes parcio i’r anabl ar gael ar safle’r stadiwm.
Mae rhywfaint o le i’r anabl barcio eu ceir ym mhob un o’r meysydd parcio. Safle parcio a cherdded Glandŵr yw’r agosaf at Stadiwm Liberty.
MAN GOLLWNG/CODI
Oherwydd y caiff ffyrdd yn yr ardal eu cau ar ddiwedd y cyngerdd, awgrymir eich bod yn trefnu i godi a chasglu teithwyr ym maes parcio ‘P3’ – y tir ger Morrisons/Canolfan Tenis Abertawe lle bydd ardal wedi’i neilltuo ar gyfer hyn.
TACSIS
Awgrymir y dylech drefnu tacsis ymlaen llaw, lle bynnag y bo hyn yn bosib. Oherwydd bydd ffyrdd ar gau yn yr ardal, rydym yn awgrymu eich bod yn trefnu i’ch tacsi eich gollwng a’ch codi o Heol Castell-nedd. Dyma’r man casglu a gollwng agosaf i’r stadiwm ar ôl i’r cyngerdd orffen. Bydd safle tacsis ‘du’ dros dro hefyd ar Heol Castell-nedd ar ôl i’r cyngerdd orffen.
BEICIAU
Dylai pobl sy’n cyrraedd ar eu beiciau ddefnyddio’r llwybrau beicio yn y ddinas. Gallwch adael beiciau wedi’u cloi ar ffens derfyn safle parcio a theithio Glandŵr.
CYRRAEDD AR Y BWS
Bydd bysus yn teithio o orsaf fysus y Cwadrant yng nghanol dinas Abertawe, 2 filltir o’r stadiwm. Atgoffir y rhai sy’n dod i’r cyngerdd y cynhelir y cyngerdd ar nos Fercher a dylech wirio gyda First Cymru: 0871 200 2233 neu ewch i www.traveline.wales i gael manylion ac amserlenni.
Ar gyfer y digwyddiad hwn, bydd First Cymru’n gweithredu bysus o Abertawe i’r stadiwm ac yn ôl. Bydd Gwasanaeth 4, X50 neu X51 yn eich cludo i’r stadiwm, a bydd gwasanaeth pwrpasol ar waith ar gyfer y daith ddychwelyd. Y gost fydd £2 am docyn unffordd, £3 am docyn dwyffordd.
CYRRAEDD AR Y TRÊN
Yr orsaf drefnau agosaf i’r stadiwm yw’r Stryd Fawr Abertawe sydd tua 1.5 milltir i ffwrdd. Caiff y rhai sy’n dod i’r cyngerdd eu hatgoffa fod y cyngerdd ar nos Fercher a dylent wirio gydag Arriva Trains: 0845 6060 6600 neu ewch i www.nationalrail.co.uk am fanylion yr amserlen.
CAU FFYRDD
Bydd ffyrdd ar gau dros dro ar ddiwedd y cyngerdd. Bydd ffordd ddeuol yr A4067 gyferbyn â’r stadiwm a Heol Castell-nedd (bydd mynediad i Heol Castell-nedd ar gyfer tacsis a bysus) ar gau am 30 munud ar ôl i’r cyngerdd orffen. (Bydd ffyrdd yn cael eu hailagor cyn gynted â phosib, yn amodol ar ystyriaethau diogelwch).
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf am draffig a pharcio ar y diwrnod, dilynwch:
Facebook: Joiobaeabertawe
Twitter: Joioabertawe neu CyngorAbertawe
Rydym yn gofyn am eich cydweithrediad ac yn gofyn i chi ddilyn y canllawiau canlynol a fydd yn eich cynorthwyo chi.
PETHAU I’W GWNEUD
- Cadwch eich tocyn gyda chi ar bob achlysur.
- Byddwch yn eich sedd erbyn dechrau’r sioe.
- Caniatewch ddigon o amser i ddefnyddio’r toiledau.
- Dewch â dillad dwrglos gyda chi.
- Rhowch unrhyw sbwriel yn y biniau a ddarperir.
- Cadwch lygad am werthwyr swyddogol a stondinau consesiwn.
- Ceisiwch osgoi masnachwyr heb drwydded y tu allan i’r lleoliad sy’n cynnig nwyddau israddol.
- Gwrandewch ar y gorsafoedd radio lleol i gael yr wybodaeth deithio ddiweddaraf.
NI DDYLECH
- Ddod ag unrhyw fwyd neu ddiod gyda chi i’r lleoliad gan nad oes hawl gennych ddod â nhw i mewn i’r lleoliad.
- Dod ag unrhyw gyfarpar recordio clywedol neu weledol. Bydd gwiriadau diogelwch ar waith a gellir atafaelu unrhyw beth os bydd angen.
- Codi ymbaréls yn ystod y cyngerdd.
- Gadael eich pethau gwerthfawr i bobl eu gweld yn eich cerbydau.
MYNEDIAD
- Gallwch ddod i’r lleoliad am 4pm.
- Dylech ddod i’r lleoliad drwy’r gatiau a nodir ar yr arwyddion a chan y stiwardiaid. O’r man hwn, dilynwch yr arwyddion o amgylch y lleoliad i ganfod yr ardal, y bloc, y rhes a’r sedd a nodir ar eich tocyn neu i gyrraedd yr ardal sefyll ar y cae.
EICH SEDDI
Cyngerdd awyr agored yw hwn. Mae’r ardal sefyll ar y cae yn wastad. Gall y seddi yn y lleoliad fod dan do neu yn yr awyr agored. Ni chaiff y cyngerdd ei ganslo os bydd y tywydd yn wael. Dewch â dillad addas i’r tywydd gyda chi. Sylwer, nid oes cyfleuster gadael bagiau neu gotiau yn y lleoliad.
WRTH GYRRAEDD
Bydd y cyngerdd yn dechrau am oddeutu 7.25pm ond gall newid. Caniatewch ddigon o amser ar gyfer eich taith, ar gyfer parcio a chyrraedd y lleoliad, yn ogystal â chyrraedd eich sedd neu’r cae.
LLUNIAETH
Bydd amrywiaeth o fwyd a lluniaeth ar gael i’w prynu yn y lleoliad a gallwch ddefnyddio cardiau credyd/debyd. NI fydd peiriannau arian ar gael yn y lleoliad.
DIM CAMERÂU NA CHYFARPAR RECORDIO
Peidiwch â dod â chyfarpar recordio clywedol/gweledol gyda chi, gan nad ydynt yn cael eu caniatáu yn y lleoliad.
CYMORTH CYNTAF
Mae lleoliadau cymorth cyntaf yn y lleoliad ac maent wedi’u nodi’n glir. Bydd stiwardiaid yn hapus i’ch cyfeirio atynt.
RHYBUDD: Gall gwrando ar gerddoriaeth uchel effeithio ar eich clyw. Efallai bydd pobl o’ch cwmpas yn sefyll.