Roedd miloedd o bobl ifanc wedi sicrhau bod hanner tymor yn un i’w gofio o ran nifer yr ymwelwyr â Plantasia.
Yn ystod hanner tymor mis Chwefror, roedd miloedd wedi mwynhau diwrnod mas, heb yr oerfel, yn y goedwig law drofannol, gan weld Cuddles y peithon a Haku y monitor dŵr Asiaidd, yr ychwanegiadau diweddaraf i’r atyniad yng nghanol y ddinas.
Cafwyd y nifer uchaf erioed o ymwelwyr yno, a hwn oedd yr hanner tymor prysuraf ers dechrau’r cofnodion ym mis Chwefror 1990, 27 mlynedd yn ôl pan agorodd Plantasia ei ddrysau am y tro cyntaf.
Gwerthwyd pob tocyn ar gyfer yr holl sioeau Parth Anifeiliaid Antur y Goedwig Law, ac aeth bron 700 o bobl i’r sioeau anifeiliaid rhyngweithiol dros dridiau yn yr atyniad a gynhelir gan Gyngor Abertawe.
Meddai Robert Francis-Davies, Aelod y Cabinet dros Fenter, Datblygu ac Adfywio, “Mae hyn yn newyddion gwych gan fod Plantasia yn un o atyniadau mwyaf poblogaidd Abertawe. Mae’r ffaith y gall y teulu cyfan fwynhau’r hinsawdd drofannol dan do yn Plantasia, beth bynnag fo’r tywydd y tu allan, yn fantais enfawr.”
“Mae Plantasia fel arfer yn croesawu 10,000 o ymwelwyr yn ystod gwyliau haf yr ysgol, ond roedd gweld cynifer o bobl yn dod trwy’r drysau yn ystod hanner tymor mis Chwefror yn syfrdanol.
“Mae Plantasia yn lle gwych i ymweld ag ef a byddwn yn annog pobl i gadw llygad ar y wefan er mwyn cael gwybod am y gweithgareddau a drefnir trwy gydol y flwyddyn”.
Mae gweithgareddau dros wyliau’r haf eisoes wedi cael eu trefnu, gan ddechrau gyda Chwrdd ag Anifeiliaid ar 11 i 13 Ebrill, lle gallwch ddod wyneb yn wyneb â swricatiaid, madfall gwddf du enfawr, Kookaburra chwarddol a mwy. Yna o 18 i 20 Ebrill gallwch fwynhau’r Parth Anifeiliaid: Cwrdd â’r Creaduriaid lle gallwch gwrdd â rhai o reolwyr plâu a datryswyr problemau byd natur gan gynnwys chwilod du, miltroediaid, sgorpionau, tarantwlaod a nadredd!
Rhaid cadw lle ymlaen llaw ac ni ellir ad-dalu pris tocynnau. Ffoniwch 01792 474555 neu ewch i www.plantasia.org i gael mwy o wybodaeth ac archebu tocynnau.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English