Nos Sadwrn ddiwethaf (28 Mai) daeth y Manic Street Preachers i Stadiwm Liberty Abertawe i berfformio un o’u halbymau mwyaf poblogaidd ac un a gafodd y clod mwyaf gan y beirniaid, Everything Must Go. Bydd y perfformiad hwn o’u hanthemau mwyaf gorfoleddus wedi cynhesu calonnau’r rhan fwyaf o gefnogwyr gwlyb y noson honno. Gyda glaw trwm a mellt a tharanau ar adegau, roedd cynulleidfa Stadiwm Liberty yn wlyb diferol, ond ni sylwodd y rhan fwyaf ohonynt wrth i ddyn blaen y Manics, James Dean Bradfield ganu rhai o’u clasuron enwocaf megis ‘Australia’ a ‘Motorcycle Emptiness’.
Ni chymerodd amser hir i’r gynulleidfa ddechrau canu nerth esgyn eu pennau wrth i’r band, a gefnogwyd gan The Super Furry Animals a Public Service Broadcast ganu ‘A Design for Life’. Dilynwyd hyn gan holl ganeuon yr albwm Everything Must Go.
Roedd ail hanner y gyngerdd yn cynnwys cymysgedd o hen ganeuon a chaneuon newydd, yn ogystal â pheth balchder Cymreig wrth gwrs! Roedd y Liberty yn ysgwyd i guriad roc caneuon megis ‘If You Tolerate This’ a ‘You Stole The Sun From My Heart’.
Er hyn, yr anthem newydd a ysgrifennwyd gan y band er mwyn cefnogi Cymru wrth iddynt ymddangos yn eu twrnamaint mawr cyntaf ers 1958 gafodd y fonllef fwyaf gan y dorf. Daw enw’r gân ‘Together Stronger’ o’r ymgyrch a fu ar y cyfryngau cymdeithasol yn ystod llwyddiant hanesyddol tîm pêl-droed Cymru. Mae’n gymysgedd o gân bêl-droed nodweddiadol a balchder Cymreig, ac ychwanegodd hon ymdeimlad o foddhad i’r hyn a oedd eisoes yn noson fythgofiadwy ym Mae Abertawe.
DARGANFOD CERDDORIAETH YM MAE ABERTAWE ELENI
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English