Gallwn ddweud heb os bod yr haf wedi cyrraedd Bae Abertawe! Wedi i ni gael Sioe Awyr Cymru a thywydd braf dros y penwythnos, ac wrth i’r rhagolygon tywydd tymor hir ddangos bod yr haul yn aros, mae digon i edrych ymlaen ato ym mis Gorffennaf ym Mae Abertawe!
Theatr Awyr Agored mewn cydweithrediad â Panini’s:
A Midsummer Night’s Dream
Wrth i’r haul fachlud dros gastell prydferth Ystumllwynarth, cewch fynd yn ôl mewn amser i’r Hen Roeg ar 19 Gorffennaf, yn un o gomedïau enwocaf Shakespeare! Ymunwch â Theseus a Hippolyta wrth i’w cynlluniau priodas fynd o chwith oherwydd helyntion brenin a brenhines y tylwyth teg a swyn hudol…
Diwrnod Hwyl Archaeoleg
Ddydd Sadwrn 21 Gorffennaf, bydd Castell Ystumllwynarth yn dathlu Blwyddyn y Môr. Dysgwch am archaeoleg forol, llongddrylliadau lleol a chysylltiadau morol Abertawe gydag Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg Gwent. Dewch o hyd i ddarganfyddiadau lleol gyda Chlwb Canfod Metel Treftadaeth Abertawe, ewch ar daith dywys o’r Castell ac adnabyddwch eich eitemau dirgel gydag arbenigwr archaeolegol!
Cwrdd â’r Anifeiliaid yn y Gwyllt
Dewch â mis Gorffennaf i ben trwy wylio sioe ryngweithiol addysgol yn Plantasia, sef Cwrdd â’r Anifeiliaid yn y Gwyllt. Rhwng 31 Gorffennaf a 2 Awst, gallwch ddod wyneb yn wyneb ag anifeiliaid cyfeillgar gan gynnwys swricatiaid, armadilod, drewgwn, cincajŵod, cadnoid a kookaburra!
Sgriniau Mawr BP 2018: Don Giovanni
Mae tymor 2018 sgriniau mawr BP yn dod i ben ar 12 Gorffennaf gyda Don Giovanni yn fyw o’r Tŷ Opera Brenhinol ar y Sgrîn Fawr yn Sgwâr y Castell, am ddim!
Bydd Marc Minkowski yn arwain cast o safon ryngwladol sy’n gynnwys Mariusz Kwiecień gyda Ildebrando D’Arcangelo, Rachel Willis-Sørensen, Pavol Breslik a Hrachuhi Bassenz yn opera trasicomig syfrdanol Mozart.
Y Sioe Deithiol Aer Glân wedi’i chefnogi gan BID Abertawe
Ddydd Sadwrn 28 Gorffennaf, ymwelwch â Sgwâr y Castell, sef lleoliad yr ail Sioe Deithiol Aer Glân flynyddol. Rhwng 10am a 4pm cynhelir amrywiaeth o weithgareddau cynaliadwy – gan gynnwys arddangosfeydd gwyddoniaeth, gweithgareddau chwaraeon a cheir trydan. Bydd gennych hefyd gyfle i greu eich llyfnffrwyth iach eich hun, a chadwch lygad am westai arbennig iawn…
Gŵyl yr Arglwyddes Wen
Does dim gwahaniaeth os ydych yn hoffi bwyd, cerddoriaeth neu gemau, mae gan Ŵyl yr Arglwyddes Wen y cyfan! Rhwng 27 a 29 Gorffennaf, byddwch ar ben eich digon, oherwydd caiff tir Castell Ystumllwynarth ei drawsnewid yn lleoliad llawn hwyl i deuluoedd sy’n cynnwys perfformiadau cerddorol a chystadleuaeth ‘It’s a knockout!’.
Wythnos Caru Parciau gyda ParkLives
Nid oes llawer yn well na mwynhau’r heulwen yn y parc, a rhwng 13 a 20 Gorffennaf, bydd gennych fwy o resymau nag arfer i garu’ch parc! Bydd ParkLives yn cynnig gweithgareddau am ddim, gan gynnwys Parkour, Mynyddfyrddio a Chylchedau; cadwch lygad am rai cymeriadau diddorol a fydd yn ymddangos yn eich parc yn barod am Ddiwrnod Emoji y Byd ar 17 Gorffennaf.
Diwrnod Daeargelloedd a Dreigiau
Ddydd Sadwrn 28 Gorffennaf, bydd Castell Ystumllwynarth yn mynd yn ôl mewn amser ar gyfer diwrnod llawn hwyl, adrodd straeon, pypedau a gorymdeithiau dreigiau. Peidiwch â cholli Gorymdaith y Dreigiau – a bydd gennych gyfle i gwrdd â rhai o’n dreigiau bach cyfeillgar yn ystod y dydd!