Doedden ni ddim yn disgwyl clywed plant ifanc yn cyfrif yn ôl o 10 mewn Rwsieg pan alwon ni heibio Llyfrgell Ganolog Abertawe yr wythnos diwethaf, ond rhaid dweud, dyna’n union yr hyn a glywon ni ymysg y silffoedd.
Bob dydd Gwener rhwng 2pm a 3pm, mae’r Llyfrgell Ganolog yn cynnal Academi’r Gofod Abertawe, rhaglen “hyfforddiant y gofod” ddifyr lle gall plant gymryd rhan mewn cyfres o weithgareddau i brofi pa mor barod ydynt yn gorfforol ac yn feddyliol ar gyfer y gofod. Ac wrth gwrs, mae pob cadét gofod yn gwybod bod yn rhaid i chi deithio yn y roced ofod Rwsiaidd sef Soyuz, i gyrraedd yr Orsaf Ofod Ryngwladol.
Mae Llyfrgelloedd Abertawe wrthi’n annog plant i gymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf sydd wedi dewis thema’r “Ras Ofod” er mwyn dathlu’r glaniad ar y lleuad ym 1969 – ac felly’r academi ofod.
Mae’n hawdd cymryd rhan yn y sialens ddarllen – cofrestrwch am ddim yn eich llyfrgell leol a byddwch yn derbyn eich ffolder Taith i’r Gofod eich hun er mwyn i chi ddechrau arni. Darllenwch chwe llyfr (neu fwy) dros wyliau’r haf i gasglu sticeri arbennig i ychwanegu at eich ffolder.
Mae gwefan i ychwanegu at yr hwyl hefyd sef spacechase.org.uk. Ac rydym wedi casglu ynghyd ddetholiad o lyfrau ffeithiol a ffuglen i blant ar thema’r “Ras Ofod” i’ch ysbrydoli chi a’ch plant.