Os ydych chi’n dwlu ar ymlacio a gwylio ffilm dda, peidiwch â cholli’r cyfle gwych hwn i weld dwy o’r ffilmiau gorau erioed yn lleoliad godidog Castell Ystumllwynarth ym mis Medi gyda The Luna Cinema – sinema awyr agored gorau’r DU.
Dewch â’ch blanced picnic neu’ch seddi gardd a gwnewch eich hun yn gyfforddus ar gyfer noson o dan y sêr.
Back To The Future
Mwynhewch y ffilm glasurol ffugwyddonol lle mae disgybl 17 oed, Marty McFly, yn cael ei anfon ar ddamwain yn ôl 30 o flynyddoedd i’r gorffennol mewn car DeLorean sy’n teithio trwy amser a gafodd ei ddyfeisio gan ei ffrind agos, y rebel o wyddonydd Doc Brown.
Mae Marty yn cwrdd â fersiynau ifancach o’i rieni ac mae’n rhaid iddo wneud yn siŵr eu bod nhw’n cwympo mewn cariad; os na fyddant, ni fydd yn parhau i fodoli. Beth sydd hyd yn oed yn fwy brawychus yw’r ffaith fod rhaid i Marty ddychwelyd i’w gyfnod ei hun ac achub bywyd Doc Brown.
Dyddiad: Dydd Mercher 14 Medi.
Amser: Drysau’n agor am 6.00pm; ffilm yn dechrau am 7.30pm.
Pris: Mynediad cyffredinol £13.50 | Grwpiau o 10 neu fwy £12.50 | Plant £9 |
Tocynnau premiwm £26 (sedd mewn safle rhagorol i weld y ffilm, diod am ddim, ciwio llwybr cyflym yn y bar).
Grease
Dyddiad: Dydd Iau 15 Medi
Amser: Drysau’n agor am 6.00pm; ffilm yn dechrau am 7.30pm.
Pris: Mynediad cyffredinol £13.50 | Grwpiau o 10 neu fwy £12.50 | Plant £9 |
Tocynnau premiwm £26 (sedd mewn safle rhagorol i weld y ffilm, diod am ddim, ciwio llwybr cyflym yn y bar).
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English