Straeon tylwyth teg, straeon arswyd a chwedlau am angenfilod – rydym wedi bod yn defnyddio straeon i godi ofn ar ein gilydd dros filenia.
Mae hen straeon, megis myth y Minotor Hen Roeg, y creadur chwedlonol a oedd yn hanner dyn, hanner tarw, a straeon mwy diweddar megis Frankenstein gan Mary Shelley, yn ein harwain i ofni’r hyn sy’n anhysbys. Mae meddwl am rywbeth arallfydol, a mwy pwerus efallai, yn dylanwadu ar ein bywydau pob dydd yn peri ofn arnom.
Fodd bynnag, drwy drosglwyddo’n hofnau i fyd ffuglen, boed drwy straeon bwganllyd neu ffilmiau arswyd, rydym yn dod o hyd i ffordd o reoli ein hofnau gan wneud y profiad yn un hwyliog a difyr.
Felly, gan ei bod hi’n Galan Gaeaf, sef yr adeg o’r flwyddyn lle mae ysbrydion ac eneidiau drwg yn crwydro’n rhydd, dyma rai straeon am ysbrydion lleol i chi eu mwynhau…
Menyw wylofus yn aflonyddu ar deulu yn ystod picnic
Yn y stori hon, roedd teulu’n cael picnic ar dir Castell Ystumllwynarth – mae’n ardal hyfryd â golygfeydd trawiadol dros Fae Abertawe. Wrth i’w rhieni orffwys, aeth y ddau blentyn bach i fan arall i chwarae. Fodd bynnag, dychwelodd y plant cyn bo hir gan honni eu bod wedi gweld menyw mewn dillad gwyn yn wylo y tu ôl i goeden.
Felly, aethant â’u tad i’r goeden a gwelodd yntau hefyd y fenyw, yn gwisgo mantell hir wen â chordyn wedi’i glymu o amgylch ei chanol. Roedd yn ymddangos ei bod hi’n beichio wylo, er nad oedd unrhyw sŵn i’w glywed.
Wrth i’w tad nesáu ati, trodd yr Arglwyddes Wen ei chefn ato. Synnodd y tad wrth weld bod rhan uchaf ei ffrog wedi’i rhwygo’n ddarnau. Roedd ei chefn yn gignoeth ac yn llawn rhwygiadau gwaedlyd.
Safodd y tad am eiliad cyn penderfynu mynd â’r plant yn ôl at ei wraig. Ar ôl dychwelyd ychydig eiliadau wedyn, nid oedd y fenyw ofidus i’w gweld yn unman. Mae’n ymddangos y byddai wedi bod yn eithaf amhosib iddi adael yr ardal mewn ffordd arferol hefyd…
Yr Arglwyddes Wen yn gwneud i gi nadu
Yn ein hail stori, roedd dyn lleol yn mynd â’i gi am dro ger Castell Ystumllwynarth. Am ychydig funudau collodd olwg ar y ci, a phan na ddychwelodd y ci wedi iddo chwibanu amdano, aeth i chwilio amdano. Ar ôl ychydig, clywodd y ci’n nadu a’i ganfod y tu ôl i goeden, wedi’i fferru gan ofn. Roedd ei lygaid yn syllu ar ran o wal y castell.
Roedd yr awyr yn dechrau tywyllu, ond roedd e’n awyddus i wybod beth allai fod wedi codi ofn ar ei gi bach. Aeth at y rhan o wal y castell a oedd wedi denu sylw’r ci, ac wrth wneud hynny, welodd siâp gwyn ar y llawr o flaen y wal.
Wrth iddo nesáu, dechreuodd y ci udo, a dechreuodd y siâp gwyn, a oedd yn ymddangos fel darn mawr o bapur gwyn neu rywbeth tebyg, godi o’r llawr. Menyw mewn mantell wen oedd e’, a chyn i’r dyn ymbwyllo ar ôl ei syndod, dechreuodd y fenyw ‘doddi’ i wal y castell.
Wrth iddo gyrraedd y man lle’r oedd y fenyw wedi diflannu, gwelodd nad oedd unrhyw ffordd o fynd drwy’r wal. Yn ei eiriau ef, “roedd y ddaear wedi’i llyncu”.
Arglwyddes Wen Ystumllwynarth
Mae gan bob castell sy’n werth ei halen ysbryd, ac nid yw Castell Ystumllwynarth yn wahanol. Yn debyg i’r rhai rydym eisoes wedi’u clywed, mae digon o straeon ar gael, a’u prif gymeriad yw’r Arglwyddes Wen.
Y fenyw sy’n cael ei chysylltu fwyaf â’r castell yw Alina de Braose. Ai hi yw Arglwyddes Wen Ystumllwynarth?
Er na allwn fod yn siŵr, mae stori Alina yn sicr yn un ddiddorol.
Yr Arglwyddes Alina de Braose
Alina de Braose oedd merch hynaf William de Braose III, Arglwydd Gŵyr. Ym 1298, priododd Alina â John de Mowbray yng Nghastell Abertawe. Byddai John yn mynd ymlaen i gymryd rhan yn nherfysg y barwniaid yn erbyn Brenin Edward II o Loegr gyda Thomas o Gaerhirfryn.
Ar ôl colli brwydr Boroughbridge ym 1322, dienyddiwyd John de Mowbray a ffodd Alina ar gwch o benrhyn Gŵyr i Ddyfnaint. Fodd bynnag, fe’i darganfuwyd a’i charcharu yn Nhŵr Llundain.
Ar ôl iddi gael ei rhyddhau, cafodd Alina gadarnhad bod y Brenin Edward III wedi rhoi tir ym mhenrhyn Gŵyr iddi hi a’i hetifeddion a bu’n dal y tir hwnnw gyda’i hail ŵr, Richard de Peshale, tan iddi farw ym 1331.
Yr Arglwyddes Wen mewn carreg
Ymysg y gwrthrychau canoloesol sy’n cael eu harddangos yn Amgueddfa Abertawe mae cerfiad carreg 700 mlwydd y credir ei fod yn cynrychioli Arglwyddes Wen Ystumllwynarth, Yr Arglwyddes Alina de Braose.
Ac yn olaf…
Os ydych chi’n gweld Arglwyddes Wen Ystumllwynarth yng Nghastell Ystumllwynarth ar Nos Galan Gaeaf, cofiwch adrodd y geiriau hyn:
Arglwyddes Wen, plîs paid â dychryn,
Arglwyddes Wen, cwsg yn ddiderfyn.