Mae Prifysgol Abertawe yn paratoi ar gyfer Gŵyl Wyddoniaeth Prydain, sy’n dechrau ar Ddydd Mawrth 6 Medi. Ymunwch â ni i archwilio llu o bynciau, o chwaraeon i gerddoriaeth, gofod i eneteg, a newid hinsawdd i ddiogelwch seiber.
Mae mwy na 100 digwyddiad am ddim yn digwydd dros bedwar diwrnod (Dydd Mawrth 6 – Dydd Gwener 9 Medi) gyda’r ddau ar y campws a thrwy’r ddinas – gan gynnwys gwyddoniaeth yn meddiannu yn Uplands, ‘caiacio sonig’ ym Mae Abertawe, a pharti traeth gyda thân gwyllt.
Mae gwesteion enwog yn cynnwys Rick Edwards o Sianel 4, J. Willgoose Esq. o Public Service Broadcasting, y cyflwynydd teledu Dallas Campbell a’r hanesydd Amanda Foreman, ynghyd â gwyddonwyr enwog yn rhyngwladol yn cynnwys cyn fyfyriwr yn Abertawe sef Lyn Evans sy’n rhedeg y Peiriant Gwrthdaro Hadron Mawr yn CERN, George Abbey o NASA a’r seicolegydd Yr Athro Uta Frith.
Yn ychwanegol, dilynir hyn gan Benwythnos Teuluol, gydag adloniant, gweithgareddau ymarferol a hwyl i’r teulu cyfan. Gan ddigwydd yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau a lleoedd eraill o gwmpas, byddwch yn gallu dathlu canmlwyddiant Roald Dahl gyda Jon Chase o CBBC, bod yn greadigol gyda chelf a chrefft, neu gymryd rhan yn y bŵtcamp dynion gofod!
Mae’r holl docynnau am ddim, ond argymhellir archebu ar www.britishsciencefestival.org
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English