Mae arbenigwyr o’r meysydd crefft ymladd, cyfeiriannu a nofio ar y rhestr fer i gael eu henwi’n Chwaraewr y Flwyddyn yng Ngwobrau Chwaraeon Abertawe.
Brett Johns, Kristian Jones ac Aaron Moores yw’r tri sy’n cael eu hystyried am yr anrhydedd yng Ngwobrau Chwaraeon blynyddol Abertawe a gynhelir ym mis Mawrth.
Tîm Chwaraeon ac Iechyd Cyngor Abertawe sy’n gyfrifol am y gwobrau, sydd wedi bod yn cydnabod cyflawniadau lleol ym maes chwaraeon ers 14 blynedd.
Daw Johns o Bontarddulais ac ef oedd y Cymro cyntaf i gyrraedd carfan yr Ultimate Fighting Championship ac, ar ben hynny, bu hefyd yn fuddugol yn ei ornest gyntaf yn Belfast ym mis Tachwedd.
Mae Jones yn dod o Abertawe ac yn astudio am ei PhD yn Dundee ar hyn o bryd. Mae hefyd yn arbenigwr o’r radd flaenaf ar gyfeiriannu – camp lle mae ymgeiswyr yn cyfeiriannu cyn gynted â phosib rhwng pwyntiau rheoli ar fap cyfeiriannu. Roedd gwobrau aur ym Mhencampwriaeth Cyfeiriannu Prifysgolion y Byd, y Bencampwriaeth Cyfeiriannu Brydeinig a’r Rasys Cyfnewid Gweunydd a Bryniau Prydeinig ymysg ei gyflawniadau yn 2016. Bu Jones hefyd yn fuddugol yn y ras 5000m ym Mhencampwriaeth Athletau’r Alban, yn ogystal â 10k Stirling.
Nofiwr o Abertawe yw Aaron Moores sy’n hyfforddi ym Mhwll Cenedlaethol Cymru. Enillodd fedal aur yng Ngemau Paralympaidd Rio yn y ras nofio dull broga 100 metr SB14.
Meddai’r Cyng. Mark Child, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddinas Iach a Lles, “Rhoddwyd Brett, Kristian ac Aaron ar y rhestr fer yn dilyn cyfarfod panel annibynnol wrth i ni edrych ymlaen at Wobrau Chwaraeon Abertawe yn Neuadd Brangwyn.
“Mae’r tri ohonynt wedi cael blwyddyn i’w chofio ond, yn ogystal â dathlu ein chwaraewyr profiadol, mae’r gwobrau chwaraeon hefyd yn ymdrechu i gydnabod arwyr di-glod mewn chwaraeon cymunedol – o ysgol gynradd neu uwchradd arbennig o lwyddiannus i’r gwirfoddolwyr a’r hyfforddwyr y mae’n debyg na fyddai eu horiau o waith caled y tu ôl i’r llenni yn cael eu cydnabod fel arall.
“Mae’r gwobrau chwaraeon blynyddol yn noson lle mae cymuned chwaraeon Abertawe – ar lefel brofiadol a chymunedol – yn dod ynghyd i ddathlu llwyddiant, ymroddiad ac ymrwymiad.”
Mae rheolwr tîm pêl-droed Cymru, Chris Coleman, wedi’i enwebu am y wobr Hyfforddwr Perfformiad y Flwyddyn yn ogystal â Stuart McNarrry o Nofio Cymru a Natalie Lucitt Jenkins, hyfforddwr perfformiad uchel yng Nghanolfan Gymnasteg Abertawe.
Mae’r categorïau eraill yn cynnwys Gwirfoddolwr y Flwyddyn, Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn a Chwaraewr Anabl Iau y Flwyddyn.
Ewch i www.abertawe.gov.uk/RhestrFer2016 i weld y rhestr lawn o gategorïau a’r bobl sydd wedi cyrraedd y rhestr fer.
Caiff yr enillwyr ar gyfer 2016 eu cyhoeddi mewn seremoni arbennig yn Neuadd Brangwyn nos Iau 16 Mawrth. Mae tocynnau ar gyfer y seremoni wobrwyo bellach ar werth yn www.abertawe.gov.uk/GwobrauChwaraeon
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English