Mae tair ysgol ar y rhestr fer ar gyfer anrhydedd Tîm Ysgol Gynradd y Flwyddyn yng Ngwobrau Chwaraeon Abertawe.
Dim ond un gêm gollodd tîm pêl-droed merched Craigfelen yn ystod blwyddyn ysgol 2015/2016, gan hefyd ennill rownd derfynol Cymdeithas Bêl-droed Ysgolion Abertawe. Yn arddangos chwarae cyffrous sy’n llifo’n rhydd, enillodd tîm rygbi Llandeilo Ferwallt dri thwrnamaint yn 2016 – Tlws Gŵyr, Cwpan Ray Beech a Chwpan Gŵyl Gŵyr.
Hefyd yn 2015/2016, enillodd tîm pêl-droed bechgyn Pontlliw goron Ysgolion Abertawe, gan gyrraedd rownd derfynol twrnamaint dan 11 oed yr Uwch-gynghrair hefyd.
Tîm Chwaraeon ac Iechyd Cyngor Abertawe sy’n gyfrifol am y gwobrau, sydd wedi bod yn cydnabod cyflawniadau lleol ym maes chwaraeon ers 14 blynedd.
Mae’r categorïau eraill yn cynnwys Gwirfoddolwr y Flwyddyn, Hyfforddwr Cymunedol y Flwyddyn a Chwaraewr Anabl Iau’r Flwyddyn.
Ewch i www.abertawe.gov.uk/gwobrauchwaraeon i weld yr holl gategorïau a’r rhestr fer. Gallwch hefyd brynu tocynnau ar gyfer y noson wobrwyo ar y wefan.
Meddai’r Cyng. Mark Child, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddinas Iach a Lles, “Mae Gwobrau blynyddol Chwaraeon Abertawe yn noson wych lle daw cymuned chwaraeon Abertawe ynghyd i ddathlu’r 12 mis diwethaf. Yn ogystal â’n chwaraewyr a’n timau proffesiynol, mae’r digwyddiad hefyd yn gyfle i ddiolch i hyfforddwyr a gwirfoddolwyr y byddai eu cyfraniadau fel arall yn anhysbys.
“Mae Tîm Ysgol Gynradd y Flwyddyn yn un o lawer o gategorïau sy’n ceisio sicrhau bod unrhyw un sy’n deilwng o gydnabyddiaeth yn cael ei wobrwyo am ei ymrwymiad a’i gyflawniadau.
“Mae tocynnau ar gael o hyd ar gyfer y digwyddiad, felly byddwn yn annog unrhyw un â diddordeb i fynd i wefan y Gwobrau Chwaraeon a phrynu tocyn”.
Mae categorïau eraill yn cynnwys Tîm Ysgol Uwchradd y Flwyddyn, Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn a Chwaraewyr Iau’r Flwyddyn.
Gallwch ddarllen yr erthygl yma try cyfrwng: English