Mae Abertawe wedi cymryd cam yn nes at gael ei choroni’n Ddinas Diwylliant y DU 2021, wedi cyrraedd y rhestr fer i ddod yn drydedd ddinas y DU i ymfalchïo yn y teitl a fawr chwenychir, yn dilyn yn olion troed Derry yn 2013 a Hull, y Ddinas Diwylliant ar hyn o bryd ar gyfer 2017.
Mae’r tîm cynnig ar gyfer 2021, sy’n cynnwys Cyngor Abertawe, gweithwyr proffesiynol creadigol, y ddwy Brifysgol, iechyd a busnes, ac arweinwyr y meysydd celfyddydau a diwylliant, wrth eu bodd bod yr Adran Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon a’u panel asesu annibynnol wedi gweld digon o deilyngdod yn ei gynnig cychwynnol i’w symud drwodd i’r cam nesaf.
Cyfyngwyd y cynnig, a gyflwynwyd yn Ebrill, gan y meini prawf i ddatganiad byr a grymus yn amlinellu’r effaith y gallai Abertawe ei hennill o’r statws, wrth ochr syniadau ar gyfer rhaglen o weithgareddau cyffrous, cofiadwy a difyr a allai brofocio meddwl pawb yn y ddinas.
Meddai’r Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe: “Rydyn ni’n llawn cyffro ein bod wedi mynd heibio i’r garreg filltir allweddol hon sef cyflawni’r statws Dinas Diwylliant y DU 2021 ac rwyf eisiau diolch i bawb yng nghymuned Abertawe sydd eisoes wedi cymryd yr ymgyrch bwysig hon at eu calonnau.
“Un o’r pethau mae’r tîm cynnig wedi bod yn awyddus iawn i’w wneud yn y camau cynnar iawn hyn o’n gyriad i ennill y cynnig i fod yn Ddinas Diwylliant y DU 2021 oedd dod â’r holl ddinas gyda ni.
“Rydyn ni wedi cadw’n ffyddlon i gred graidd ein dinas bod diwylliant ar gyfer pawb ac y bydd ein preswylwyr ac ymwelwyr yn elwa yn y tymor hir o gymryd rhan mewn rhaglen bellgyrhaeddol o gelfyddydau, digwyddiadau a hamdden o safon uchel – yn y cyfnod yn arwain at, yn ystod ac ar ôl 2021. Rydyn ni wedi amlygu’r ffaith bod diwylliant eisoes yn rhan o fywydau pawb sy’n byw a gweithio yn Abertawe – os ydych chi’n mwynhau’r ddinas hon am ei theatrau a digwyddiadau dawns, ei lleoliadau cerddoriaeth a’r diwylliant draeth, ei hamgueddfeydd, orielau a llyfrgelloedd, ei fywyd cymdeithasol bywiog, ei gwefrau ym maes chwaraeon, ei pharciau, bwytai, clybiau neu gorau – dyma’r union gynhwysion a gaiff eu hehangu a’u mwyhau i’r DU gyfan eu mwynhau, os mai ni fydd y ddinas a ddewisir. Mae’r cam hwn yn y gystadleuaeth yn anodd ond mae buddion ennill yn eiddo inni i gyd, felly byddwn i’n annog pawb i gefnogi ymgyrch Abertawe a dangos i’r aseswyr ein bod ni’n barod i gyflenwi hyn. Rydyn ni eisiau i bob person yn Abertawe fod yn rhan o’r broses hon a chael budd ohoni. Dyma ein dinas ni, rydyn ni’n ‘Dîm Abertawe’ felly gwyliwch am ein hymgyrch Abertawe 2021 dros yr wythnosau a misoedd sydd i ddod, a gwnewch bopeth o fewn eich gallu i’w chefnogi.
“Mae ond angen ichi edrych ar yr hyn mae Dinas Diwylliant y DU 2017 wedi’i wneud dros Hull i weld pa mor werthfawr yw’r fenter hon. Mae’r ddinas, ei phobl a’i chynnig diwylliannol wedi’u rhoi ar y map, maen nhw wedi creu rhai digwyddiadau a phrosiectau trawiadol, ac amcangyfrifir y bydd gwerth y buddsoddiad yn eu rhaglenni ac yng nghanol y ddinas yn fwy na £100 miliwn mewn cyllid oddi wrth gyrff megis Cyngor y Celfyddydau a’r Loteri Genedlaethol ac oddi wrth fusnesau preifat a leolir yn y ddinas ac sy’n buddsoddi ynddi”
Nawr bod Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer, mae’n rhaid i’r tîm cynnig ar gyfer Dinas Diwylliant y DU 2021 sicrhau mai eu cynnig terfynol nhw fydd yr un cryfaf, er mwyn profi i Lywodraeth y DU a’u panel o arbenigwyr bod Abertawe’n haeddu, ac â’r gallu, i hedfan y faner ddiwylliant ar gyfer y DU gyfan, cyn i’r panel wneud ei benderfyniad terfynol ym mis Rhagfyr. Bydd hyn yn cynnwys gweithio ar yr adborth i wneud y cynnig yn gyflwyniad llawn a therfynol, yn manylu ar sut y bydd Abertawe’n denu ymwelwyr ac yn ennill yr effaith economaidd a chymdeithasol fwyaf, gyda rhaglen sydd o safon fyd-eang. Nawr mae’r celfyddydau, ymchwil, iechyd a gweithwyr proffesiynol yn gweithio ar y manylion hyn, yn gwahodd cyfraniadau oddi wrth sefydliadau cenedlaethol sy’n gweithio ledled Cymru a’r DU, er mwyn arddangos y bydd ein cynnig ar gyfer 2021 yn ymgysylltu â’r DU gyfan.
Meddai’r Cynghorydd Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr: “Os dyfarnir teitl Dinas Diwylliant y DU 2021 i Abertawe byddai’n ein helpu i gael cymaint mwy o effaith, yn gyflymach, oddi wrth ein cynlluniau cyfredol ar gyfer adfywio a arweinir gan ddiwylliant i’r ddinas. Rydyn ni wedi bod yn brysur yn gweithio ar ein cynllun diwylliannol tymor hir, er mwyn sicrhau bod diwylliant a chreadigrwydd, hamdden, difyrrwch, datblygu sgiliau, swyddi yn y diwydiannau creadigol, twristiaeth, digwyddiadau ac amrywiaeth yn ganolog i’n proses o adfywio, ac erbyn 2021 byddwn ni mewn sefyllfa hyd yn oed yn gryfach i gyflawni hyn.
“Dim ond wythnos ddiwethaf, fe wnaethon ni benodi ATG (Ambassador Theatre Group/Grŵp Theatr y Cennad) fel ein gweithredwr arena dan do digidol newydd. Gyda gwaith ar fin cychwyn flwyddyn nesaf mewn parodrwydd ar gyfer agor yn 2020, bydd hyn yn ychwanegu at ein lleoliadau gwerthfawr eraill megis Theatr y Grand, ein hamgueddfeydd ac orielau a’r amrediad o leoliadau celfyddydau, cerddoriaeth a diwylliannol annibynnol, cyfredol ac arfaethedig fel rhan o’r adfywio yn y Stryd Fawr ac Abertawe Ganolog. Mae gennym nifer gynyddol o wyliau, digwyddiadau ar raddfa fawr a rhaglen ddiwylliannol gynyddol amrywiol sy’n rhoi hyder inni ar gyfer ein huchelgeisiau i Abertawe fod yn ddinas o safon fyd-eang.”