Mae dwsinau o faneri’n dathlu hanes Abertawe bellach yn cael eu harddangos yng Nghastell Ystumllwynarth.
Er bod y castell yn cau ar gyfer tymor 2017 o ddydd Sadwrn 30 Medi nes mis Ebrill, bydd y baneri’n parhau i gael eu chwifio o’r atyniad yn ystod yr hydref a’r gaeaf.
Gan gyd-fynd â themâu Blwyddyn Chwedlau Croeso Cymru’r llynedd, crëwyd y baneri lliwgar gan blant ysgol Abertawe ac maent wedi’u hysbrydoli gan eu hymweliadau â’r castell a chwedlau lleol. Cawsant eu harddangos hefyd ar y traeth ger Canolfan Chwaraeon Traeth a Dŵr 360 yn gynharach yr haf hwn.
Roedd ysgolion a gymerodd ran yn cynnwys Ysgol Gynradd y Garreg Wen, Ysgol Gynradd Penyrheol, YGG Pontybrenin, Ysgol Gynradd Pentre’r Graig, YGG y Login Fach, Ysgol Pen-y-bryn ac Ysgol Gynradd Tre Uchaf.
Ariennir y prosiect yn rhannol gan y Cyngor Celfyddydau a chaiff ei gynnal gan dîm y Celfyddydau mewn Addysg Cyngor Abertawe, mewn partneriaeth â Locws Rhyngwladol, grŵp celfyddydau yn Abertawe.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Ymwelodd miloedd o bobl o bob oed o Abertawe, Cymru a’r tu hwnt â Chastell Ystumllwynarth eto eleni i archwilio pob twll a chornel, darganfod ei hanes a chymryd cam yn ôl mewn amser.
“Ymhlith yr ymwelwyr cafwyd llu o blant o nifer o ysgolion lleol a gafodd y cyfle i ddychmygu preswylwyr a bywyd y castell drwy’r oesoedd, gan eu helpu i’w hysbrydoli i ddylunio cyfres o faneri.
“Byddant yn cael eu harddangos yn y castell nes dydd Sadwrn 30 Medi, felly dim ond rhyw wythnos sydd ar ôl eleni i bobl ddarganfod y baneri yn y castell ei hun, er y byddant yn parhau i chwifio o’r atyniad dros yr hydref a’r gaeaf.
“Mae Castell Ystumllwynarth yn rhan allweddol o ddiwylliant Abertawe rydym am ei ddathlu a’i rannu â’r byd os byddwn yn llwyddiannus yn ein cais am deitl Dinas Diwylliant y DU 2021.”
Cyngor Abertawe sy’n rheoli Castell Ystumllwynarth gyda chefnogaeth gan Gyfeillion Castell Ystumllwynarth.
Mae digwyddiadau a gweithgareddau a gynhaliwyd yno dros y misoedd diweddar wedi cynnwys arddangosfa ffotograffiaeth, Diwrnod Hanes Byw Canoloesol, Diwrnod Tywysogion a Thywysogesau, teithiau tywys a chelf a chrefft traddodiadol.
Delweddau drwy garedigrwydd Locws Rhyngwladol.