Mae rhedwr pellterau mawr, nofiwr a mabolgampwr ar y blaen yn y ras i ennill gwobr Chwaraewr y Flwyddyn Abertawe.
Mae Dewi Griffiths, Daniel Jervis a Jac Davies ar y rhestr fer ar gyfer yr anrhydedd yng Ngwobrau Chwaraeon blynyddol Abertawe, a gynhelir yn Neuadd Brangwyn y ddinas Fercher 14 Mawrth.
Tîm Chwaraeon ac Iechyd Cyngor Abertawe sy’n gyfrifol am y gwobrau, sydd wedi bod yn cydnabod cyflawniadau lleol ym maes chwaraeon ers 15 mlynedd.
Roedd Dewi, sy’n rhedeg i Glwb Athletau Harriers Abertawe, wedi gorffen y tymor fel rhedwr gorau’r DU ar gyfer y ras 10k a’r marathon. Ef bellach yw rhedwr marathon ail gyflymaf Cymru erioed.
Roedd capten Clwb Campau Dŵr Abertawe, Dan Jervis, pencampwr presennol Prydain ar gyfer yr 800m a’r 1,500m, wedi gorffen y flwyddyn ymhlith deg nofiwr gorau’r byd ar gyfer y ras 1,500 dull rhydd. Ar ôl ennill y fedal efydd yng Ngemau’r Gymanwlad yn Glasgow yn 2014, enillodd Dan yr hawl i nofio dros Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad ar yTraeth Aur yn Awstralia ym mis Ebrill.
Jac Davies o Glwb Gymnasteg Abertawe yw pencampwyr ceffyl pren (pommel) hŷn Cymru a Phrydain. Bydd hefyd yn cystadlu dros Gymru yng Ngemau’r Gymanwlad ar y Traeth Aur lle, o ystyried holl ganlyniadau eleni, mae yn yr ail safle o ran y sgôr gorau a chyfartalog.
Meddai’r Cyng. Robert Francis-Davies, Aelod Cabinet Cyngor Abertawe dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Phrosiectau Mawr, “Mae chwaraeon yn rhan enfawr o ddiwylliant yn Abertawe, p’un a yw’n ymwneud â’r miloedd o bobl sy’n mynd ati i gymryd rhan mewn chwaraeon cystadleuol neu hamdden, y rhai sy’n mynd i Stadiwm Liberty i gefnogi’r Elyrch a’r Gweilch, neu’r gwirfoddolwyr a’r hyfforddwyr hynny na fyddai eu horiau o waith caled y tu ôl i’r llenni mewn cymunedau ar draws y ddinas yn cael sylw fel arall.
“Dyna pam mae mor bwysig i ni ddathlu chwaraeon Abertawe yn y ffordd hon oherwydd bod cynifer o bobl sy’n llawn haeddu cydnabyddiaeth.
“Mae cyflawniadau Dewi, Daniel a Jac yn dweud cyfrolau, felly bydd y gystadleuaeth eleni ar gyfer Chwaraewr y Flwyddyn Abertawe mor ffyrnig ag erioed.
“Ynghyd â’r bobl, yr ysgolion a’r clybiau sydd wedi cyrraedd y rhestr fer mewn categorïau eraill, mae hyn yn dangos bod chwaraeon yn parhau i fod wrth wraidd bywyd y ddinas yn Abertawe.”
Mae categorïau eraill yn cynnwys hyfforddwr cymunedol y flwyddyn, tîm ysgol gynradd y flwyddyn, tîm ysgol uwchradd y flwyddyn, gwirfoddolwr y flwyddyn a chyfraniad at chwaraeon.
Ewch i www.abertawe.gov.uk/gwobrauchwaraeon am ragor o wybodaeth.