Date/Time:
Date(s) - 25/09/2018 - 29/09/2018
6:30 pm
Location: Neuadd Brangwyn
Mae Nawr Yr Arwr \ Now The Hero yn cyfuno tri chyfnod o ryfel:y cyfnod Celtaidd – wedi’i gynrychioli gan yr arwrgerdd ryfel, ‘Y Gododdin’; y Rhyfel Mawr – wedi’i gynrychioli gan Baneli’r Ymerodraeth Brydeinig gan Brangwyn; a’r cyfnod cyfoes – wedi’i gynrychioli gan filwr o Abertawe sy’n rhoi’r llinyn storïol i’r perfformiad.
Bydd modd i gynulleidfaoedd fwynhau:
- Cyrchoedd ar y traeth yn Abertawe a’r strydoedd o amgylch Neuadd y Ddinas
- Perfformiadau ac arddangosfeydd yn Neuadd Brangwyn a Neuadd y Ddinas
- Swper Cynhaeaf
Mae Nawr Yr Arwr \ Now The Hero yn gam arall ar daith greadigol Rees wrth greu theatr sy’n ymateb i’r lleoliad, gydag elfen gerddorol yn greiddiol i’r prosiect. Requiem i ymgolli ynddi fydd hon a’r cyfan yn deillio o gywaith gwreiddiol gan Jóhann Jóhannsson ac Owen Roberts.
Owen Sheers, yr awdur sydd wedi ennill gwobr BAFTA, fydd yn gyfrifol am y libreto (awdur ‘Mametz’, ‘The Passion’, ‘Aberfan: The Green Hollow’), a Polyphony, côr byd-enwog Stephen Layton ac enillwyr gwobr Grammy, fydd yn canu.
Fel sydd yn aml i’w ddisgwyl yng ngwaith Rees, profiad promenâd fydd hwn, a’r gynulleidfa’n cael ei thywys gan brif gymeriad y sioe, sef y Protestiwr Heddwch. Eddie Ladd, y berfformwraig o Gymru sydd wedi cydweithio droeon â Rees, fydd yn chwarae’r cymeriad hwn.
Mae hanes y Protestiwr Heddwch yn wrthbwynt hollbwysig i stori’r milwr cyfoes.
Pwy yw gwir Arwr y stori hon? Dewch i weld drosoch eich hun.
Tocynnau
£15, £12 consesiynau
Nawr yr Arwr: Nawr am Fwy
I gyd-fynd â dyddiadau’r prif berfformiad, mae gŵyl fach, sef ‘penwythnos celf’ estynedig – ‘Nawr am Fwy’ – sy’n cynnwys holl sefydliadau diwylliannol bach a mawr y ddinas. Bydd Nawr am Fwy yn cynnwys digwyddiadau arbennig untro, arddangosfeydd, sgyrsiau artist, gweithgareddau a llwybrau i deuluoedd, gwaith celf cyhoeddus, gweithdai a pherfformiadau gan artistiaid cyfoes gwych mewn nifer o leoliadau ar draws Abertawe.
Categories