Date/Time:
Date(s) - 10/03/2018 - 24/06/2018
10:00 am - 4:50 pm
Location: Amgueddfa Genedlaethol y Glannau
Pris: Am Ddim
Addasrwydd: Pawb
Artist a ddysgodd ei hunan oedd Michael Blackmore (1938-2015). Ar ôl gyrfa fel lithograffydd yn y diwydiant argraffu, aeth yn ddarlunydd ar ei liwt ei hunan, gan arbenigo mewn ail-greu golygfeydd diwydiannol. Yn y Fenni y bu’n byw ar hyd ei oes a châi ei ysbrydoli gan y cyfoeth o hen olion diwydiannol y deuai ar eu traws yn y cylch. Cafodd ei ddarluniau a’i baentiadau eu cyhoeddi mewn llawer o gyfrolau, arweinlyfrau a phamffledi lle deuent â’r gorffennol yn fyw trwy waith ymchwil gofalus a sylw mawr i fanylion.
Camlesi de-ddwyrain Cymru a’r rhwydwaith o reilffyrdd arbennig oedd â cheffylau’n tynnu’r wagenni oedd ei arbenigedd. Roedd y tramffyrdd hyn yn cysylltu gweithfeydd haearn, pyllau glo a chwareli â’r gamlas. Mae’r ardal hon yn cynnwys Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, Safle Treftadaeth y Byd. Roedd yn ardal bwysig iawn yn ystod y Chwyldro Diwydiannol a châi’r haearn oedd yn cael ei gynhyrchu yma ei allforio i bedwar ban byd.
Categories