Date/Time:
Date(s) - 17/06/2018
1:00 pm
Location: Dylan Thomas Theatre
Pan oedd Gwlad Belg dan oresgyniad yn y 1940au, trodd y canwr acordion Toots Thielemans ei sylw at chwarae’r harmonica gromatig. Arweiniodd dewis yr offeryn amrywiol hwn at yrfa gerddorol heb ffiniau.
Ai rhywbeth am yr offeryn unigryw hwn nas clywyd yn aml a ddennodd ef at fyd bandiau bepop, ffync electronig, jazz Brasilaidd a sgorau ffilm a theledu? Neu ai llais personol a llyfn y gŵr hwn o ogledd Ewrop a anwylodd ef i brif gerddorion a chyfansoddwyr America, o Charlie Parker i Qunicy Jones a Benny Goodman i Jaco Pastorius?
Mewn rhaglen gyngerdd, a ardystiwyd gan Thielemans ei hun cyn ei farwolaeth yn 2016, mae’r meistr harmonica Phil Hopkins yn ymuno â rhai o gerddorion jazz mwyaf dyfeisgar y DU i archwilio caneuon eclectig Toots. Mae’r cyngerdd yn mynd â’r gynulleidfa ar daith drwy gerddoriaeth boblogaidd y 50 mlynedd diwethaf. Mae’r casgliad o ganeuon a berfformir yn cynnwys arwyddganeuon Sesame Street a Midnight Cowboy, ‘Bluesette’, cyfansoddiad Thielemans ei hun (a ddaeth yn gân jazz safonol yn gyflym iawn) a chaneuon o’i gydweithrediadau enwog â Benny Goodman, Paul Simon, Bill Evans a llawer mwy.
Mae’r ystod eang o ganeuon yn hybu dawn syfrdanol y grŵp talentog hwn i fyrfyfyrio a bydd yr holl gerddorion yn cyfrannu eu cyfansoddiadau eu hunain wedi’u hysgrifennu’n arbennig a’u hysbrydoli gan waith Toots. Gan gyfeirio at gysylltiadau cerddorol helaeth Thielemans, mae Hopkins hefyd wedi trefnu ei hoff alawon gan Norah Jones, Carole King, Stevie Wonder ac eraill i gwblhau’r rhaglen hynod hon.
Gan gynnwys alawon cryf, caneuon cyfarwydd a sylwebaeth Phil ei hun yn dod â’r rhaglen at ei gilydd, bydd y sioe hon yn apelio at gynulleidfaoedd o bob oedran a diddordeb.
Tocynnau: £10
Codir tâl am gadw lle ar-lein.
Gŵyl Jazz Rhyngwladol Abertawe 2018
Categories