Date/Time:
Date(s) - 12/05/2018 - 13/05/2018
10:00 am - 4:00 pm
Location: Canolfan Dylan Thomas
Cynhelir Diwrnod Rhyngwladol Dylan ar 14 Mai ac mae’n gyfle perffaith i ymweld â’n harddangosfa arobryn, am ddim ‘Dwlu ar y Geiriau’. Eleni, rydym yn dathlu drwy gynnal rhai sesiynau â thema ar gyfer ein Sgwadiau Sgwennu Ifanc ac yn agor ein Man Dysgu er mwyn ysbrydoli pawb!
Dydd Sadwrn 12 Mai: Sgwadiau Sgwennu Ifanc
Mae’r bardd arobryn, Jonathan Edwards, yn arwain dau weithdy gyda’n Sgwadiau Sgwennu Ifanc ar gyfer plant 11-16 oed. Cysylltwch â’r ganolfan am fwy o fanylion am y Sgwadiau.
Ffôn: 01792 463980
E-bost: llenyddiaethdylan.thomas@abertawe.gov.uk
Dydd Sul 13 Mai: Gweithgareddau Galw Heibio Diwrnod Dylan
Bydd ein Man Dysgu sy’n addas i deuluoedd ar agor ar gyfer chwarae hunanarweiniedig am ddim. Mae gweithgareddau’n cynnwys ysgrifennu creadigol, pypedau, gemau, cornel ddarllen, crefftau a dillad gwisgo lan, gyda’r cyfan wedi’i ysbrydoli gan Dylan Thomas. Yn wych i deuluoedd gyda phlant o bob oedran.
Galw heibio, am ddim.
Categories