Date/Time:
Date(s) - 11/08/2018 - 17/08/2018
10:00 am - 6:00 pm
Location: Ostreme Centre
Mae’r Beibl, yr ystyrir yn eang fel y llyfr mwyaf poblogaidd erioed, yn gasgliad o destunau cysegredig ac ysgrythurau y mae Iddewon a Christnogion yn ei ystyried yn ganlyniad ysbrydoliaeth ddwyfol, ac yn gofnod o’r berthynas rhwng Duw a bodau dynol.
Bydd yr arddangosfa genedlaethol hon o’r Beibl yn egluro pwysigrwydd y llyfr hwn mewn hanes a sut mae wedi goroesi drwy’r oesoedd. Bydd yr arddangosfa hon hefyd yn archwilio’r cysylltiadau rhwng y testun cysegredig hwn a digwyddiadau hanesyddol, ynghyd â’i broffwydoliaethau ar gyfer y dyfodol; ac ystyr neges y llyfr unigryw hwn.
Bydd arddangosfa’r Beibl yn sicrhau bod gan bawb fynediad i’r llyfr hwn trwy ddefnyddio taith sain ddewisol a sgriniau cyffwrdd, llwybrau ar gyfer plant hŷn a gweithgareddau ymarferol i blant iau.
Caiff yr arddangosfa genedlaethol o’r Beibl ei threfnu gan y Cristadelffiaid #BeibliGymru
Categories